A85479:252
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
VI. Dymuna in ddifrifol, a llafuria in ddigellwair, drwy arfer pob moddion, am gael hawl in Jesus Ghrist, in yr hwn y mae golud a thrysorau in rhagori holl olud a thrysorau'r bid. Efe yw'r trysor a guddiwyd in y maes, ar perl gwerthfawr hwnnw, o ran yr hwn yr aeth y Marchnattwr doeth, ac a werthodd gymmaint oll ac a feddei, ac ai prynnodd, Mat. 13. 44, 46. Abraham, er bod ganddo helaethrwyd o bob pethau oddiallan, etto a lefodd allan, Arglwydd Dduw, beth a roddi di i mi? gan fy mod in mined in ddiblant. Felly ditheu, in y mwyniant o'th helaethrwydd oddiallan, in yr un môdd llefa allan, Arglwydd, beth yw bin i gŷd? gan fy mod in mined heb Grist.
VI. Dymuna yn ddifrifol, a llafuria yn ddigellwair, drwy arfer pob moddion, am gael hawl yn Jesu Ghrist, yn yr hwn y mae golud a thrysorau yn rhagori holl olud a thrysorau'r byd. Efe yw'r trysor a guddiwyd yn y maes, ar perl gwerthfawr hwnnw, o ran yr hwn yr aeth y Marchnattwr doeth, ac a werthodd gymmaint oll ac a feddei, ac ai prynnodd, Mat. 13. 44, 46. Abraham, er bod ganddo helaethrwyd o bob pethau oddiallan, etto a lefodd allan, Arglwydd Dduw, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddiblant. Felly ditheu, yn y mwyniant o'th helaethrwydd oddiallan, yn yr un môdd llefa allan, Arglwydd, beth yw byn i gŷd? gan fy mod yn myned heb Grist.
VII. Cyfranna allan o'th ystôr tu ag at gyfreidiau eraill. Fell y mae rhoddi ir tlawd in ddyledswydd sy in sefyll ar bawb ar sy mewn gallu, felly in enwedigol ar y rhai goludog. Am hynny y mae yr Apostol Paul in ewyllyssio i Timotheus Orchymmyn ir rhai sy oludog in y bid ymma, ar iddynt wneuthur daioni, ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da. &c. 1 Tim. 6. 17, 18.
VII. Cyfranna allan o'th ystôr tu ag at gyfreidiau eraill. Fel y mae rhoddi ir tlawd yn ddyledswydd sy yn sefyll ar bawb ar sy mewn gallu, felly yn enwedigol ar y rhai goludog. Am hynny y mae yr Apostol Paul yn ewyllyssio i Timotheus Orchymmyn ir rhai sy oludog yn y byd ymma, ar iddynt wneuthur daioni, ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da. &c.