A85479:265
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Fod ystâd pob dŷn wedi ei threfnu gan Dduw, yr hwn megis ac y mae ef in Arglwydd goruchaf Nef a Daiar, ac y dichon wneuthur â ni fell y gwelo in dda; felly y mae ef in anfeidrol mewn doethineb, a thrwy hynny in gwybod pa ystâd sydd oreu a chymmhwysaf i ni, a hynny in well nag y gwyddom ni ein hunain; je, ac y mae ef in oludog o drugaredd a daioni, a thrwy hynny in ewyllysgar ac in barod i wneuthur yr hyn in ei ddoethineb y mae ef in gwybod ei fod in oreu ac in gymhwysaf i ni. Yr hyn ped ystyrid in ddifrifol, a fyddei in fôdd enwedigol i weithio ein calonnau i ryw fesur o fodlonrwydd in ein ystad a'n cyflwr gwaelaf.
2. Fod ystâd pob dŷn wedi ei threfnu gan Dduw, yr hwn megis ac y mae ef yn Arglwydd goruchaf Nef a Daiar, ac y dichon wneuthur â ni fel y gwelo yn dda; felly y mae ef yn anfeidrol mewn doethineb, a thrwy hynny yn gwybod pa ystâd sydd oreu a chymmhwysaf i ni, a hynny yn well nag y gwyddom ni ein hunain; ie, ac y mae ef yn oludog o drugaredd a daioni, a thrwy hynny yn ewyllysgar ac yn barod i wneuthur yr hyn yn ei ddoethineb y mae ef yn gwybod ei fod yn oreu ac yn gymhwysaf i ni. Yr hyn ped ystyrid yn ddifrifol, a fyddei yn fôdd enwedigol i weithio ein calonnau i ryw fesur o fodlonrwydd yn ein ystad a'n cyflwr gwaelaf.
3. Fod cyfoeth in rwystr mawr in y ford tua 'r nefoedd. Deliwch sulw ar ymadrodd ein Jachawdwr, Luc. 18. 24, 25. Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw! Gan arwyddocau fod cyfoeth in rwystr mawr i jechydwriaeth dynion. Onid ydyw gan hynny in drugaredd oddiwrth Dduw i ti, ei fod ef in gwneuthur dy ford a'th fynediad di in rhwyddach, ac in lay peryglus tua 'r nef, nâ ford dy gymydogion goludog? in ddilys pan fyddych ar farw, ni bid gennit and ychydig achos i achŵyn am dy ddiffyg o gyfoeth ac amlder.
3. Fod cyfoeth yn rwystr mawr yn y ffordd tua 'r nefoedd. Deliwch sulw ar ymadrodd ein Iachawdwr, Luc. 18. 24, 25. Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw! Gan arwyddocau fod cyfoeth yn rwystr mawr i iechydwriaeth dynion. Onid ydyw gan hynny yn drugaredd oddiwrth Dduw i ti, ei fod ef yn gwneuthur dy ffordd a'th fynediad di yn rhwyddach, ac yn llai peryglus tua 'r nef, nâ ffordd dy gymydogion goludog? yn ddilys pan fyddych ar farw, ni bydd gennit ond ychydig achos i achŵyn am dy ddiffyg o gyfoeth ac amlder.