Cyn gynted ac y codech, dôs i ryw le dirgel, ac yno offrwm i Dduw forevol Aberth o weddi a diolch. Y ddyledswydd hon o weddi ddirgel a orchmynnir in eglur gan ein Jachawdwr, Mat. 6. 6. Tydi pan weddiech, dôs ith stafell, ac wedi cau dy ddrŵs, gweddia ar dy Dâd yr hwn sydd in y dirgel: a'th Dâd yr hwn a wêl in y dirgel a dûl i ti in yr amlwg. Ac am weddio in foreu, y mae gennym ni ecsampl Christ a rhai o'r pennaf o'r Seintiau i'n hannog ni i hynny. A'r boreu, in blygeiniol jawn, wedi i Grist godly (Medd Marc. 1. 35.) efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd, ac yno y gweddiodd. Fe gyfode Jôb in foreu (Pen. 1. 5.) ac a offrymmei both offrymmau ir Arglwydd. Ac medd Dafydd, in foreu Arglwydd y clywi fy llêf: in foreu y cyfeirief attat, ac yr edrychaf i fynu. Hwyr, a boreu, a hanner did y gweddiaf, a byddaf daer, Psal. 5. 3. a'r 55. 17. Tair gwaith in y did (ac in ddiammeu y boreu oedd un waith o'r tair) y gostyngei Daniel ar ei liniau, ac y gweddidi, ac y cyffessei o flaen Duw, in ei stafell, Dan. 6. 10. Y mae rheswm a phrawf in dyscu i ni, fôd ein coffadwriaethau, a holl nerthoedd ein eneidiau in fwy bywiol y boreu, nag ar amseroedd eraill, i gyflawni dyledswyddau fanctaidd, ar ôl cael cwsg a gorphywysfa felus y nôs o'r blaen. O gau hynny! Gad bôb peth heibio in hytrach nâ borevol weddi in y dirgel. Os bid dy orchwylion in fawr ac in pwyso arnat, cais godly in forevach; na chymmer ddim in law nes i ti in gyntaf dy orchymmyn dy hun, a'th orchwylion i Dduw trwy weddi: Canys pa fôdd y jelly di, gydâ dim hither ddisgwyl am fendith Duw ar dy boen a'th lafur, heb alw ar Dduw in gyntaf, in gymmaint ac may gweddi yw 'r môdd a sancteiddiodd Duw tuag at ddyfod o hid pôb peth daionus? ⟨p. 5⟩Mat. 7. 7. Ac y mae Duw wedi dangos ei fodlonrwydd ir ddyledswydd hon, trwy ddatcuddio ei hunan iw bobl ynddi. Pa bryd y danfonodd yr Arglwydd y gennadwriaeth ddiddanus honno at Daniel, ei fôd ef in anwyl i Dduw, and pan yr oedd ef in gweddio in ddirgel? Dan. 9. 20. 23. A diammeu ydyw, gaffael o lawyer o filoedd dyneru eu calonnau, gwascaru eu dychryniadau, diddymmu eu ammhevon, cadarnhau eu ffydd, selio eu siccrwydd, pan oeddynt in gweddio in ddirgel. Pa annogaeth y ddylei hyn fôd i ni, i arfer gweddi ddirgel in wastadol?
CYn gynted ac y codech, dôs i ryw le dirgel, ac yno offrwm i Dduw foreuol Aberth o weddi a diolch. Y ddyledswydd hon o weddi ddirgel a orchmynnir yn eglur gan ein Iachawdwr, Mat. 6. 6. Tydi pan weddiech, dôs ith stafell, ac wedi cau dy ddrŵs, gweddia ar dy Dâd yr hwn sydd yn y dirgel: a'th Dâd yr hwn a wêl yn y dirgel a dûl i ti yn yr amlwg. Ac am weddio yn foreu, y mae gennym ni ecsampl Crist a rhai o'r pennaf o'r Seintiau i'n hannog ni i hynny. A'r boreu, yn blygeiniol iawn, wedi i Grist godi (Medd Marc. 1. 35.) efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd, ac yno y gweddiodd. Fe gyfode Jôb yn foreu (Pen. 1. 5.) ac a offrymmei boeth offrymmau ir Arglwydd. Ac medd Dafydd, yn foreu Arglwydd y clywi fy llêf: yn foreu y cyfeirief attat, ac yr edrychaf i fynu. Hwyr, a boreu, a hanner dydd y gweddiaf, a byddaf daer, Psal. 5. 3. a'r 55. 17. Tair gwaith yn y dydd (ac yn ddiammeu y boreu oedd un waith o'r tair) y gostyngei Ddaniel ar ei liniau, ac y gweddidi, ac y cyffessei o flaen Duw, yn ei stafell, Dan. 6. 10. Y mae rheswm a phrawf yn dyscu i ni, fôd ein coffadwriaethau, a holl nerthoedd ein eneidiau yn fwy bywiol y boreu, nag ar amseroedd eraill, i gyflawni dyledswyddau fanctaidd, ar ôl cael cwsg a gorphywysfa felus y nôs o'r blaen. O gau hynny! Gad bôb peth heibio yn hytrach nâ boreuol weddi yn y dirgel. Os bydd dy orchwylion yn fawr ac yn pwyso arnat, cais godi yn foreuach; na chymmer ddim yn llaw nes i ti yn gyntaf dy orchymmyn dy hun, a'th orchwylion i Dduw trwy weddi: Canys pa fôdd y gelli di, gydâ dim hyder ddisgwyl am fendith Duw ar dy boen a'th lafur, heb alw ar Dduw yn gyntaf, yn gymmaint ac mai gweddi yw 'r môdd a sancteiddiodd Duw tuag at ddyfod o hyd pôb peth daionus? ⟨p. 5⟩Mat. 7. 7. Ac y mae Duw wedi dangos ei fodlonrwydd ir ddyledswydd hon, trwy ddatcuddio ei hunan iw bobl ynddi. Pa bryd y danfonodd yr Arglwydd y gennadwriaeth ddiddanus honno at Ddaniel, ei fôd ef yn anwyl i Dduw, ond pan yr oedd ef yn gweddio yn ddirgel? Dan. 9. 20. 23. A diammeu ydyw, gaffael o lawer o filoedd dyneru eu calonnau, gwascaru eu dychryniadau, diddymmu eu ammheuon, cadarnhau eu ffydd, selio eu siccrwydd, pan oeddynt yn gweddio yn ddirgel. Pa annogaeth y ddylei hyn fôd i ni, i arfer gweddi ddirgel yn wastadol?