A85479:274
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I. Gwiliwch [neu gochelwch] ddatcuddio dim Annhymmer na Gwŷn neu boethder tan eich Gwradwyddiadau. Nid wyfi in gwadu na ellwch chwi, ac na ddylaech fod in deimladwy o'r cam a wneir â'ch enw chwi, canys megis ag y mae enw da in well nag ennaint gwerthfawr, Preg. 7. 1. Felly cael enw drwg sydd farnedigaeth fawr; ac am hynny ni ddylaech chwi mor bod in annheimladwy o'r cam a wneir i'ch enw drwy enllibion a gwradwyddiadau, gan ddywedyd, Siariaded dynion am danaf y peth a welont in dda, nid oes fatter gennif, cyhyd ac yr adwaenwyf fy niniweidrwydd fy hun; canys er bod tystiolaeth och diniweidrwydd eich hunain in sail o diddanwch i chwi; etto rhaid i'ch gofal fôd nid in unic ar eich gosod eich hunain in brofedig gan Dduw, eithr gan ddynion hefyd; ar fôd mor ofalus am eich enwau da ac y bo 'n bossibl i chwi allu; and etto ni ddylaech chwi ddatcuddio dim annhymmerwch neu wynniau ar ymadroddion gwradwyddus gan eraill i'ch erbyn. Canys,
I. GWiliwch [neu gochelwch] ddatcuddio dim Annhymmer na Gwŷn neu boethder tan eich Gwradwyddiadau. Nid wyfi yn gwadu na ellwch chwi, ac na ddylaech fod yn deimladwy o'r cam a wneir â'ch enw chwi, canys megis ag y mae enw da yn well nag ennaint gwerthfawr, Preg. 7. 1. Felly cael enw drwg sydd farnedigaeth fawr; ac am hynny ni ddylaech chwi mor bod yn annheimladwy o'r cam a wneir i'ch enw drwy enllibion a gwradwyddiadau, gan ddywedyd, Siariaded dynion am danaf y peth a welont yn dda, nid oes fatter gennif, cyhyd ac yr adwaenwyf fy niniweidrwydd fy hun; canys er bod tystiolaeth och diniweidrwydd eich hunain yn sail o diddanwch i chwi; etto rhaid i'ch gofal fôd nid yn unic ar eich gosod eich hunain yn brofedig gan Dduw, eithr gan ddynion hefyd; ar fôd mor ofalus am eich enwau da ac y bo 'n bossibl i chwi allu; ond etto ni ddylaech chwi ddatcuddio dim annhymmerwch neu wynniau ar ymadroddion gwradwyddus gan eraill i'ch erbyn. Canys,
1. Hynny a rid achos gyfiawn i eraill i farnu, eich bod chwi in wir evog o'r petnau hynny y ceblir chwi am danynt.
1. Hynny a rydd achos gyfiawn i eraill i farnu, eich bod chwi yn wir euog o'r petnau hynny y ceblir chwi am danynt.