A85479:287
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Gochelwn ddirmygu neu ddiystyru cerydd yr Arglwydd, drwy ddywedyd, os mine Duw gymmeryd fy ngolud, cymmered ef: os mine ef gymmeryd fy Ngwr, neu fy Ngwraig, neu fy Mhlentyn, cymmered hwynt: hyn sydd ddirmygiad ar gerydd yr Arglwydd, je gofalu ychydig am dano, yr hyn sy in anfodloni Duw in fawr.
1. Gochelwn ddirmygu neu ddiystyru cerydd yr Arglwydd, drwy ddywedyd, os myn Duw gymmeryd fy ngolud, cymmered ef: os myn ef gymmeryd fy Ngwr, neu fy Ngwraig, neu fy Mhlentyn, cymmered hwynt: hyn sydd ddirmygiad ar gerydd yr Arglwydd, ie gofalu ychydig am dano, yr hyn sy yn anfodloni Duw yn fawr.
2. Gochelwn ymollwng dan ein colledion, gwrthwynebion, a chystuddiau: megis pan fo marw Plant, yna marw hefyd o yspryd tâd neu fam: neu pan fo marw Gŵr, yna marw o yspryd y Wraig hefyd: hyn sydd in ymollyngiad tan faich ein cystuddiau, megis pe baent in anfad o bwys na ellid moi oddef.
2. Gochelwn ymollwng dan ein colledion, gwrthwynebion, a chystuddiau: megis pan fo marw Plant, yna marw hefyd o yspryd tâd neu fam: neu pan fo marw Gŵr, yna marw o yspryd y Wraig hefyd: hyn sydd yn ymollyngiad tan faich ein cystuddiau, megis pe baent yn anfad o bwys na ellid moi oddef.
2. Os mynnech chwi ddwyn eich cystuddiau in Gristianogaidd, dygwch hwynt gydag ymynedd a distawrwydd, in ôl ecsampl Dafydd, yr hwn pan osododd Duw ei law ar ei gefn ef, ynteu in ebrwydd a osododd ei law ar ei enau, fell yr ymddengys wrth ei ymadrodd ef ei hun, Aethum in fud, ac nid agorais fy ngenau, canys ti a wnaethost hyn, Psal. 39. 9.
2. Os mynnech chwi ddwyn eich cystuddiau yn Gristianogaidd, dygwch hwynt gydag ymynedd a distawrwydd, yn ôl ecsampl Dafydd, yr hwn pan osododd Duw ei law ar ei gefn ef, ynteu yn ebrwydd a osododd ei law ar ei enau, fel yr ymddengys wrth ei ymadrodd ef ei hun, Aethum yn fud, ac nid agorais fy ngenau, canys ti a wnaethost hyn,