A85479:277
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Gochelwch dalu in ôl ammarch am ammarch, neu sen am snn, yr hyn sydd anweddus jawn i Gristion, ac ynteu in hynny mor annhebyg i Grist, Yr hwn, fall y llefara yr Apostol Petr, Pan ddifenwyd ni ddifenwodd drachefn, 1 Pet. 2. 23.
II. Gochelwch dalu yn ôl ammarch am ammarch, neu sen am snn, yr hyn sydd anweddus iawn i Gristion, ac ynteu yn hynny mor annhebyg i Grist, Yr hwn, fal y llefara yr Apostol Petr, Pan ddifenwyd ni ddifenwodd drachefn, 1 Pet. 2. 23.
III. Na chymmerwch arnoch fod in dal and ychydig neu ddim ar y gwradwyddiadau a deflir arnoch. Solomon a ddywaid, Dih 19 11 Harddwch dŷn yw iddo fined tros gamwedd, hynny ⟨p. 62⟩yw, bod heb gymmeryd arno wybod dim oddiwrtho. Ac in ddiau y fâth oreu ar ymddial yw efe, ar a alloch chwi ei gymmeryd ar eich gwarthruddwŷr; canys ni ddichon bod dim mwy blinder i'ch enllibus warthruddiwr, na'ch gweled chwi heb gennych and ychydig neu ddim matter am ei wradwyddiadau ef i'ch erbyn: a phwy bynnag a wnelo brawf o'r peth a gaiff welled y blina ef fwy ar ei Wrthwynebwr drwy ei ddistawrwydd, nâ phe rhoddai iddo her am her.
III. Na chymmerwch arnoch fod yn dal ond ychydig neu ddim ar y gwradwyddiadau a deflir arnoch. Solomon a ddywaid, Dih 19 11 Harddwch dŷn yw iddo fyned tros gamwedd, hynny ⟨p. 62⟩yw, bod heb gymmeryd arno wybod dim oddiwrtho. Ac yn ddiau y fâth oreu ar ymddial yw efe, ar a alloch chwi ei gymmeryd ar eich gwarthruddwŷr; canys ni ddichon bod dim mwy blinder i'ch enllibus warthruddiwr, na'ch gweled chwi heb gennych ond ychydig neu ddim matter am ei wradwyddiadau ef i'ch erbyn: a phwy bynnag a wnelo brawf o'r peth a gaiff weled y blina ef fwy ar ei Wrthwynebwr drwy ei ddistawrwydd, nâ phe rhoddai iddo herr am herr.