A85479:285
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Dygwch hwynt in deimladwy: mae 'r Arglwydd in disgwil i ni fôd in deimladwy o bwys ein cystuddiau, ni fynnai ef i ni mor bod megis Stoicciaid, neu Gyssion, y rhai ni chlywant oddiwrth ei wialennodiau ef, and megis plant y mynnai ef i ni fod in deimladwy o farwindod neu dostedd y wialen. Dyma fall yr oedd Job, Pen. 1. 20.
1. Dygwch hwynt yn deimladwy: mae 'r Arglwydd yn disgwil i ni fôd yn deimladwy o bwys ein cystuddiau, ni fynnai ef i ni mor bod megis Stoicciaid, neu Gyssion, y rhai ni chlywant oddiwrth ei wialennodiau ef, ond megis plant y mynnai ef i ni fod yn deimladwy o farwindod neu dostedd y wialen. Dyma fal yr oedd Job, Pen. 1. 20.
Mae dau Ormodedd y rhai yr ydym ni in barod jawn i redeg iddynt in amseroedd cystuddiau, y nail yw Dirmygu cystuddiau, y llall yw Ymollwng danynt, y ddau ymma a grybwyllir wrthym gan yr Awdur at yr Hebraeaid, Heb. 12. 5. Fy mâb, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan ith argyoedder ganddo: Dyma 'r ddau ormodedd sydd i ni iw gochelyd in ofalus ar amseroedd cystuddiau.
Mae dau Ormodedd y rhai yr ydym ni yn barod iawn i redeg iddynt yn amseroedd cystuddiau, y naill yw Dirmygu cystuddiau, y llall yw Ymollwng danynt, y ddau ymma a grybwyllir wrthym gan yr Awdur at yr Hebraeaid, Heb. 12. 5. Fy mâb, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan ith argyoedder ganddo: Dyma 'r ddau ormodedd sydd i ni iw gochelyd yn ofalus ar amseroedd cystuddiau.
1. Gochelwn ddirmygu neu ddiystyru cerydd yr Arglwydd, drwy ddywedyd, os mine Duw gymmeryd fy ngolud, cymmered ef: os mine ef gymmeryd fy Ngwr, neu fy Ngwraig, neu fy Mhlentyn, cymmered hwynt: hyn sydd ddirmygiad ar gerydd yr Arglwydd, je gofalu ychydig am dano, yr hyn sy in anfodloni Duw in fawr.