A85479:298
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
IV. Os mynnech ddioddef cystuddiau in Gristianogaidd, rhaid i chwi eu dwyn hwynt in ffrwythlonaidd, drwy roddi cais ar wneuthur defnydd ac arfer sancteiddiedic o honynt, wrth yr hyn y devant i fôd in fendithion cyssurlawn i chwi; canys bendith fawr yw cystudd sancteiddiedic; am hynny medd y Psalmydd, Gwyn ei fŷd y gŵr a geryddi di, O Arglwydd, ac a ddysci in dy gyfraith, Psal. 94. 12.
IV. Os mynnech ddioddef cystuddiau yn Gristianogaidd, rhaid i chwi eu dwyn hwynt yn ffrwythlonaidd, drwy roddi cais ar wneuthur defnydd ac arfer sancteiddiedic o honynt, wrth yr hyn y deuant i fôd yn fendithion cyssurlawn i chwi; canys bendith fawr yw cystudd sancteiddiedic; am hynny medd y Psalmydd, Gwyn ei fŷd y gŵr a geryddi di, O Arglwydd, ac a ddysci yn dy gyfraith, Psal. 94. 12.
Cwest. Pa helynt a gymmeraf i gael fy nghystuddiau wedi ei Sancteiddio i mi felly, fell y gallwyf ddywedyd gydâ Dafydd, Da yw i mi fy nghystuddio? Psal. 119. 71.
Cwest. Pa helynt a gymmeraf i gael fy nghystuddiau wedi ei Sancteiddio i mi felly, fel y gallwyf ddywedyd gydâ Dafydd, Da yw i mi fy nghystuddio? Psal. 119. 71.
Atteb. I. Ym mhob, Cystudd dal sulw ar ddigllonedd Duw ith erbyn: canys er bod yr Arglwydd weithiau in cystuddio ei blant o ran profi ei Rhadau au gosod ar waith, in hytrach nag o ran dim digllonedd a feddyliodd ef iw herbyn, megis ac yr oedd in achos Job; etto un gynnefinol nid yw ef in taro nes ei gyffroi drwy ein Pechodau