A85479:286
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Mae dau Ormodedd y rhai yr ydym ni in barod jawn i redeg iddynt in amseroedd cystuddiau, y nail yw Dirmygu cystuddiau, y llall yw Ymollwng danynt, y ddau ymma a grybwyllir wrthym gan yr Awdur at yr Hebraeaid, Heb. 12. 5. Fy mâb, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan ith argyoedder ganddo: Dyma 'r ddau ormodedd sydd i ni iw gochelyd in ofalus ar amseroedd cystuddiau.
Mae dau Ormodedd y rhai yr ydym ni yn barod iawn i redeg iddynt yn amseroedd cystuddiau, y naill yw Dirmygu cystuddiau, y llall yw Ymollwng danynt, y ddau ymma a grybwyllir wrthym gan yr Awdur at yr Hebraeaid, Heb. 12. 5. Fy mâb, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan ith argyoedder ganddo: Dyma 'r ddau ormodedd sydd i ni iw gochelyd yn ofalus ar amseroedd cystuddiau.
1. Gochelwn ddirmygu neu ddiystyru cerydd yr Arglwydd, drwy ddywedyd, os mine Duw gymmeryd fy ngolud, cymmered ef: os mine ef gymmeryd fy Ngwr, neu fy Ngwraig, neu fy Mhlentyn, cymmered hwynt: hyn sydd ddirmygiad ar gerydd yr Arglwydd, je gofalu ychydig am dano, yr hyn sy in anfodloni Duw in fawr.
1. Gochelwn ddirmygu neu ddiystyru cerydd yr Arglwydd, drwy ddywedyd, os myn Duw gymmeryd fy ngolud, cymmered ef: os myn ef gymmeryd fy Ngwr, neu fy Ngwraig, neu fy Mhlentyn, cymmered hwynt: hyn sydd ddirmygiad ar gerydd yr Arglwydd, ie gofalu ychydig am dano, yr hyn sy yn anfodloni Duw yn fawr.
2. Gochelwn ymollwng dan ein colledion, gwrthwynebion, a chystuddiau: megis pan fo marw Plant, yna marw hefyd o yspryd tâd neu fam: neu pan fo marw Gŵr, yna marw o yspryd y Wraig hefyd: hyn sydd in ymollyngiad tan faich ein cystuddiau, megis pe baent in anfad o bwys na ellid moi oddef.