A85479:299
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cwest. Pa helynt a gymmeraf i gael fy nghystuddiau wedi ei Sancteiddio i mi felly, fell y gallwyf ddywedyd gydâ Dafydd, Da yw i mi fy nghystuddio? Psal. 119. 71.
Cwest. Pa helynt a gymmeraf i gael fy nghystuddiau wedi ei Sancteiddio i mi felly, fel y gallwyf ddywedyd gydâ Dafydd, Da yw i mi fy nghystuddio? Psal. 119. 71.
Atteb. I. Ym mhob, Cystudd dal sulw ar ddigllonedd Duw ith erbyn: canys er bod yr Arglwydd weithiau in cystuddio ei blant o ran profi ei Rhadau au gosod ar waith, in hytrach nag o ran dim digllonedd a feddyliodd ef iw herbyn, megis ac yr oedd in achos Job; etto un gynnefinol nid yw ef in taro nes ei gyffroi drwy ein Pechodau ⟨p. 67⟩ni; ac am hynny fe fydd in ddoethineb i ti ym mhob cystudd ddalsulw ar ddigllonedd Duw ith erbyn.
Atteb. I. Ym mhob, Cystudd dal sulw ar ddigllonedd Duw ith erbyn: canys er bod yr Arglwydd weithiau yn cystuddio ei blant o ran profi ei Rhadau au gosod ar waith, yn hytrach nag o ran dim digllonedd a feddyliodd ef iw herbyn, megis ac yr oedd yn achos Job; etto vn gynnefinol nid yw ef yn taro nes ei gyffroi drwy ein Pechodau ⟨p. 67⟩ni; ac am hynny fe fydd yn ddoethineb i ti ym mhob cystudd ddalsulw ar ddigllonedd Duw ith erbyn.
II. Chwilia dy gallon dy hun, a dyro gais ar gael allan yr achos o ddiglionedd Duw i'th erbyn; canys nid am ei ham y mae Duw in dy gystuddio di, rhyw beth neu ei gilydd sydd ar fai ynot, yr hyn a fynnai Dduw ei wellhau ai ddiwygio; ac wrth ystyried nad yw yr Arglwydd in unic in gyffredinol in ein ceryddu ni am bechod, eithr in ymweled â'n pechodau enwedigol ni â Barnedigaethau ac â Chystuddiau enwedigol; pa bryd bynnag gan hynny y mae Duw in ymweled â thy â Chlefyd, neu in dy gynnefino â chystudd, gwybŷdd may dy ddyledswydd yw manwl chwilio a dyfal ymofyn âth gallon dy hun am y Pechod, neu'r Pechodau enwedigol, y mae Duw ai ergyd attynt ynddynt, i geisio gafael ar blâ dy gallon dy hun. Fell hyn y gwnaeth pobl Dduw tan eu gorthrwm gystudd, je hwy a gŷdymalwasant ar eu gilydd i ymarfer ar ddyledswydd hon; Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, ebe hwynt, Galarn. 3. 40. Canys megis na ellir jachau clefyd in jawn nes cael allan a datcuddio ei achos ef in gyntaf: felly ni eill un cystudd chwaith mor cael ei sancteiddio ai symmud ymmaith, nes caffael a datcuddio mewn rhyw fesur yr hyn a fu achos o hono.