A85479:288
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Gochelwn ymollwng dan ein colledion, gwrthwynebion, a chystuddiau: megis pan fo marw Plant, yna marw hefyd o yspryd tâd neu fam: neu pan fo marw Gŵr, yna marw o yspryd y Wraig hefyd: hyn sydd in ymollyngiad tan faich ein cystuddiau, megis pe baent in anfad o bwys na ellid moi oddef.
2. Gochelwn ymollwng dan ein colledion, gwrthwynebion, a chystuddiau: megis pan fo marw Plant, yna marw hefyd o yspryd tâd neu fam: neu pan fo marw Gŵr, yna marw o yspryd y Wraig hefyd: hyn sydd yn ymollyngiad tan faich ein cystuddiau, megis pe baent yn anfad o bwys na ellid moi oddef.
2. Os mynnech chwi ddwyn eich cystuddiau in Gristianogaidd, dygwch hwynt gydag ymynedd a distawrwydd, in ôl ecsampl Dafydd, yr hwn pan osododd Duw ei law ar ei gefn ef, ynteu in ebrwydd a osododd ei law ar ei enau, fell yr ymddengys wrth ei ymadrodd ef ei hun, Aethum in fud, ac nid agorais fy ngenau, canys ti a wnaethost hyn, Psal. 39. 9.
2. Os mynnech chwi ddwyn eich cystuddiau yn Gristianogaidd, dygwch hwynt gydag ymynedd a distawrwydd, yn ôl ecsampl Dafydd, yr hwn pan osododd Duw ei law ar ei gefn ef, ynteu yn ebrwydd a osododd ei law ar ei enau, fel yr ymddengys wrth ei ymadrodd ef ei hun, Aethum yn fud, ac nid agorais fy ngenau, canys ti a wnaethost hyn, Psal. 39. 9.
Y goddefgar ddistaw ddygiad ymma ar gystuddiau a osodir in wrthwyneb i daubeth. 1. I rwgnach oddifewn o ran Rhagluniaethau Duw tu ac atom. 2. I achwyn a murmur oddiallan in eu herbyn hwynt, y rhai 'n ill dau sydd raid eu gochelyd in ofalus.