A85479:301
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Chwilia dy gallon dy hun, a dyro gais ar gael allan yr achos o ddiglionedd Duw i'th erbyn; canys nid am ei ham y mae Duw in dy gystuddio di, rhyw beth neu ei gilydd sydd ar fai ynot, yr hyn a fynnai Dduw ei wellhau ai ddiwygio; ac wrth ystyried nad yw yr Arglwydd in unic in gyffredinol in ein ceryddu ni am bechod, eithr in ymweled â'n pechodau enwedigol ni â Barnedigaethau ac â Chystuddiau enwedigol; pa bryd bynnag gan hynny y mae Duw in ymweled â thy â Chlefyd, neu in dy gynnefino â chystudd, gwybŷdd may dy ddyledswydd yw manwl chwilio a dyfal ymofyn âth gallon dy hun am y Pechod, neu'r Pechodau enwedigol, y mae Duw ai ergyd attynt ynddynt, i geisio gafael ar blâ dy gallon dy hun. Fell hyn y gwnaeth pobl Dduw tan eu gorthrwm gystudd, je hwy a gŷdymalwasant ar eu gilydd i ymarfer ar ddyledswydd hon; Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, ebe hwynt, Galarn. 3. 40. Canys megis na ellir jachau clefyd in jawn nes cael allan a datcuddio ei achos ef in gyntaf: felly ni eill un cystudd chwaith mor cael ei sancteiddio ai symmud ymmaith, nes caffael a datcuddio mewn rhyw fesur yr hyn a fu achos o hono.
II. Chwilia dy galon dy hun, a dyro gais ar gael allan yr achos o ddiglionedd Duw i'th erbyn; canys nid am ei ham y mae Duw yn dy gystuddio di, rhyw beth neu ei gilydd sydd ar fai ynot, yr hyn a fynnai Dduw ei wellhau ai ddiwygio; ac wrth ystyried nad yw yr Arglwydd yn unic yn gyffredinol yn ein ceryddu ni am bechod, eithr yn ymweled â'n pechodau enwedigol ni â Barnedigaethau ac â Chystuddiau enwedigol; pa bryd bynnag gan hynny y mae Duw yn ymweled â thi â Chlefyd, neu yn dy gynnefino â chystudd, gwybŷdd mai dy ddyledswydd yw manwl chwilio a dyfal ymofyn âth galon dy hun am y Pechod, neu'r Pechodau enwedigol, y mae Duw ai ergyd attynt ynddynt, i geisio gafael ar blâ dy galon dy hun. Fel hyn y gwnaeth pobl Dduw tan eu gorthrwm gystudd, ie hwy a gŷdymalwasant ar eu gilydd i ymarfer ar ddyledswydd hon; Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, ebe hwynt, Galarn. 3. 40. Canys megis na ellir iachau clefyd yn iawn nes cael allan a datcuddio ei achos ef yn gyntaf: felly ni eill un cystudd chwaith mor cael ei sancteiddio ai symmud ymmaith, nes caffael a datcuddio mewn rhyw fesur yr hyn a fu achos o hono.
Er mwyn datcuddio in well y Pechod neu'r Pechodau nailltuol y mae Duw ai ergyd attynt in dy gystuddiau di, cymmer yr ychydig Reolau a'r Hyfforddiadau hyn.