A85479:294
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Nad oes dim cystuddiau in digwydd i nêb heb doeth Ragluniaeth Duw in ei trefnu, megis ag y mae Eliphaz in arwyddocau, Job 5. 6. Na ddaw cystudd allan o'r prîd, ac na flagura gofid allan or ddatar; Y gwirionedd yw, nad oes un Warrant in dyfod i Ddal dy Gorph di â Gofid neu Ddolur, nad yw hi in dyfod tan Law; a Sêl dy Dâd nefol; nid oes yr un Habeas Corpus neu writt in dyfod i gymmeryd ymmaith dy Gymmar, dy Blentyn, neu dy Gyfaill, nad yw wedi ei selio gan dy Dâd nefol. Yr ystyriaeth ymma a fu in sail o gyssur i bobl Dduw in eu holl gystuddiau, Yr Arglwydd, medd Job, a roddodd, yr Arglwydd a ddygodd ymmaith: bendigedig fyddo enw'r Arglwydd, Job 1. 21. A rhaid yw i hyn fôd in sail o gyssur, je ac o lawenydd i holl bobl Dduw, in enwedig os ystyriwch chwi in y man nessaf,
1. Nad oes dim cystuddiau yn digwydd i nêb heb ddoeth Ragluniaeth Duw yn ei trefnu, megis ag y mae Eliphaz yn arwyddocau, Job 5. 6. Na ddaw cystudd allan o'r prîd, ac na flagura gofid allan or ddatar; Y gwirionedd yw, nad oes un Warant yn dyfod i Ddal dy Gorph di â Gofid neu Ddolur, nad yw hi yn dyfod tan Law; a Sêl dy Dâd nefol; nid oes yr un Habeas Corpus neu writt yn dyfod i gymmeryd ymmaith dy Gymmar, dy Blentyn, neu dy Gyfaill, nad yw wedi ei selio gan dy Dâd nefol. Yr ystyriaeth ymma a fu yn sail o gyssur i bobl Dduw yn eu holl gystuddiau, Yr Arglwydd, medd Job, a roddodd, yr Arglwydd a ddygodd ymmaith: bendigedig fyddo enw'r Arglwydd, Job 1. 21. A rhaid yw i hyn fôd yn sail o gyssur, ie ac o lawenydd i holl bobl Dduw, yn enwedig os ystyriwch chwi yn y man nessaf,
2. Mai y diben y mae Duw in ei fwriadu in eich cystuddiau chwi, yw gwneuthur i chwi ddaioni, je rhyw ddaioni enwedigol, na ellid moi wneuthur cystal ford arall in y bŷd: Mae'r Arglwydd in ein ceryddu er llesâd i ni, Medd yr Apostol, ⟨p. 66⟩