A85479:307
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
5. Bid daer ar Dduw mewn Gweddi, ar iddo ef dy helpu in hyn o chwilio, ar iddo ef ddatcuddio ac hyspysu i ti y Pechod, neu 'r Pechodau at ba ray in enwedigol y mae ei ergyd ef; fall hyn y gwnaeth Job, Pen. 10. 2. Gwna i mi wybod, medd ef, pa ham yr ymrysoni â mi; hynny yw, am ba Bechod neu Bechodau yr wit ti in fy nghystuddio i fall hyn. A chwedi hynny y mae ef in llefain in ei gystuddiau, Pâr imi wybod fy nghamwedd am pechod, Job 13. 23. In yr ûn ffunyd, ffo ditheu at Dduw mewn Gweddi in dy gystudd, gan attolygu ar iddo ef wneuthur i ti wybod paham y mae ef felly in ymryson â thy, ac yspysu i ti pa beth yw dy anwiredd ath bechod, a gyffrôdd ei ddigofaint ef in dy erbyn.
5. Bydd daer ar Dduw mewn Gweddi, ar iddo ef dy helpu yn hyn o chwilio, ar iddo ef ddatcuddio ac hyspysu i ti y Pechod, neu 'r Pechodau at ba rai yn enwedigol y mae ei ergyd ef; fal hyn y gwnaeth Job, Pen. 10. 2. Gwna i mi wybod, medd ef, pa ham yr ymrysoni â mi; hynny yw, am ba Bechod neu Bechodau yr wyt ti yn fy nghystuddio i fal hyn. A chwedi hynny y mae ef yn llefain yn ei gystuddiau, Pâr imi wybod fy nghamwedd am pechod, Job 13. 23. Yn yr ûn ffunyd, ffo ditheu at Dduw mewn Gweddi yn dy gystudd, gan attolygu ar iddo ef wneuthur i ti wybod paham y mae ef felly yn ymryson â thi, ac yspysu i ti pa beth yw dy anwiredd ath bechod, a gyffrôdd ei ddigofaint ef yn dy erbyn.
III. Wedi cael gafael ar y Pechod neilltuol yr oedd Duw â'i lefel atto in dy gystudd di, yna dôs a chyfaddef ef i Dduw mewn Gweddi, ynghŷd â'i orthrwm amgylchiadau; gan dy farnu ath gondemnio dy hun in rhwydd ger bron Duw am dano, â chalon ddrylliog a chystuddiedig. Fell hyn y gwnaeth Dafydd, Psal. 32. 4, 5. Pan oedd law Duw in drom arno ef, yna, medd ef, Yr addefais fy mhechod wrthit, a'm hanwiredd ni chuddiais, a thy a faddevaist anwiredd fy mhechod. Ac ir sawl a gyfaddefant eu pechodau mae addewid o faddevant wedi ei wneuthur, 1 Joan. 1. 9. At dy gyfaddefion chwanega ddifrifol a gwressog Weddi at Dduw am bardwn a maddevant o'th bechodau, ac am ei gymmod ef yr hwn y gyffroaist ti drwyddynt, er mwyn a thrwy haeddedigaethau Jesus Grist, ac am gael dy dderbyn in ddaionus, a chael dy garu in rhâd ganddo, ac na bo iddo ymryson â thy dross fŷth.