A85479:311
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
PEN. XVIII. Y mod i ddiweddu y diwrnod gydâ Duw.
PEN. XVIII. Y modd i ddiweddu y diwrnod gydâ Duw.
Wedi dangos i chwi pa fodd i rodio gydâ Duw ar hŷd y did: In awry devaf i ddangos i chwi pa fodd i ddiweddu 'r diwrnod, ac i orwedd i lawr gyd â Duw in yr hwyr.
WEdi dangos i chwi pa fodd i rodio gydâ Duw ar hŷd y dydd: Yn awr y deuaf i ddangos i chwi pa fodd i ddiweddu 'r diwrnod, ac i orwedd i lawr gyd â Duw yn yr hwyr.
Yr Hyfforddiadau a ellir eu dwyn ir ddau Ben hyn. 1. Y cyfryw ac a berthynant i'n hymddygiad in yr hwyr cyn ein mined i'n gweláu. 2. Y cyfryw ac a berthynant i'n hymddygiad wrth ein mynediad i'n gwely.
Yr Hyfforddiadau a ellir eu dwyn ir ddau Ben hyn. 1. Y cyfryw ac a berthynant i'n hymddygiad yn yr hwyr cyn ein myned i'n gweláu. 2. Y cyfryw ac a berthynant i'n hymddygiad wrth ein mynediad i'n gwely.