PEN. XVIII. Y mod i ddiweddu y diwrnod gydâ Duw.PEN. XVIII. Y modd i ddiweddu y diwrnod gydâ Duw.
pp. 71–7526 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
PEN. XVIII. Y mod i ddiweddu y diwrnod gydâ Duw.
PEN. XVIII. Y modd i ddiweddu y diwrnod gydâ Duw.
Wedi dangos i chwi pa fodd i rodio gydâ Duw ar hŷd y did: In awry devaf i ddangos i chwi pa fodd i ddiweddu 'r diwrnod, ac i orwedd i lawr gyd â Duw in yr hwyr.
WEdi dangos i chwi pa fodd i rodio gydâ Duw ar hŷd y dydd: Yn awr y deuaf i ddangos i chwi pa fodd i ddiweddu 'r diwrnod, ac i orwedd i lawr gyd â Duw yn yr hwyr.
Yr Hyfforddiadau a ellir eu dwyn ir ddau Ben hyn. 1. Y cyfryw ac a berthynant i'n hymddygiad in yr hwyr cyn ein mined i'n gweláu. 2. Y cyfryw ac a berthynant i'n hymddygiad wrth ein mynediad i'n gwely.
Yr Hyfforddiadau a ellir eu dwyn ir ddau Ben hyn. 1. Y cyfryw ac a berthynant i'n hymddygiad yn yr hwyr cyn ein myned i'n gweláu. 2. Y cyfryw ac a berthynant i'n hymddygiad wrth ein mynediad i'n gwely.
I. Yr Hyfforddiadau a berthynant i'n hymddygiad in yr hwyr cyn ein mined i'n gwely, yw y rhai 'n.
I. Yr Hyfforddiadau a berthynant i'n hymddygiad yn yr hwyr cyn ein myned i'n gwely, yw y rhai 'n.