A85479:321
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
4. A ddarllenais i ran o'r Scrythur lân y did heddyw, ai na do? A wneuthym i hynny in ysgasn ac in ddibris. ⟨p. 72⟩neu gydâ gwŷlder a pharchedig ofn, megis yngŵydd presennoldeb Duw? Ac a fyfyriais i ar yr hyn a ddarllenais, fell y gallwn i gofio hynny in well?
4. A ddarllenais i ran o'r Scrythur lân y dydd heddyw, ai na ddo? A wneuthym i hynny yn ysgasn ac yn ddibris. ⟨p. 72⟩neu gydâ gwŷlder a pharchedig ofn, megis yngŵydd presennoldeb Duw? Ac a fyfyriais i ar yr hyn a ddarllenais, fel y gallwn i gofio hynny yn well?
5. A fum i y did heddyw in wiliadwrus ar fy meddyliau; heb adel math in y bŷd o feddyliau anllad, bydol, neu offer, i letteva o fewn fy nghalon; eithr in eu bwrw hwynt ymmaith gydâ ffieidd-dra, ac in eu taflu hwynt allan cyn gynted ac yr oeddent in codi yno?
5. A fum i y dydd heddyw yn wiliadwrus ar fy meddyliau; heb adel math yn y bŷd o feddyliau anllad, bydol, neu ofer, i letteua o fewn fy nghalon; eithr yn eu bwrw hwynt ymmaith gydâ ffieidd-dra, ac yn eu taflu hwynt allan cyn gynted ac yr oeddent yn codi yno?
6. A fum i wiliadwrus ar fy ngeiriau, gan ymattal fy hunan oddiwrth bob math o eiriau aflan, ac ymadroddion diflas; heb adel i un-mâth o ymadrodd llygredig i ddyfod allan o'm genau, gan lefaru yr hyn oedd dda, a buddiol i adeiladu eraill?