A85479:328
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
11. Beth y fu fy ymddygiad i in y Dirgel? A ollyngais i yno fy nghalon allan i fyfyrio ar ddrygioni, gan ⟨p. 73⟩borthi fy fancy neu 'm Tŷb, a rhyngu bôdd i'm fy hunan â meddylian beilchion, dialeddus, anllad, neu drygionus mewn un ford arall? neu a wneuthum i ddefnydd da o'm lle dirgel, drwy osod fy meddyliau ar ryw bethau ysprydol a nefol, gan ymresymmu â mi fy hunan ynghylch hynny?
11. Beth y fu fy ymddygiad i yn y Dirgel? A ollyngais i yno fy nghalon allan i fyfyrio ar ddrygioni, gan ⟨p. 73⟩borthi fy ffansi neu 'm Tŷb, a rhyngu bôdd i'm fy hunan â meddylian beilchion, dialeddus, anllad, neu drygionus mewn un ffordd arall? neu a wneuthum i ddefnydd da o'm lle dirgel, drwy osod fy meddyliau ar ryw bethau ysprydol a nefol, gan ymresymmu â mi fy hunan ynghylch hynny?
12. Beth a fu fy ymddygiad mewn cwmpeini? A dreuliais i yr amser in offer mewn ymddiddanion bydol, ac ymadroddion pechadurus, gan roddi gormod o ford i gyflawniad fy nhrachwantau a'm pleserau cnawdol? neu a ymegniais i fod in ffrwythlon, ac in llesol i mi fy hun ac i eraill mewn cwmpeini?
12. Beth a fu fy ymddygiad mewn cwmpeini? A dreuliais i yr amser yn ofer mewn ymddiddanion bydol, ac ymadroddion pechadurus, gan roddi gormod o ffordd i gyflawniad fy nhrachwantau a'm pleserau cnawdol? neu a ymegniais i fod yn ffrwythlon, ac yn llesol i mi fy hun ac i eraill mewn cwmpeini?
Megis may y Marchnattwr goreu yw yr hwn sydd beunydd in yr hŵyr in cymmeryd cyfrif o'i golledion ai ennillion bydol: felly efe yw 'r Cristion goreu ar sydd bob did in yr hwyr in cymmeryd cyfrif o'i golledion ai ennillion ysprydol, pan ydyw ef ai mined rhagddo ai mined in ôl law in ffyrdd duwioldeb. Histori a fynega i ni am lawyer o'r Cenhedloedd y rhai a arferent bob hwyr o fwrw golwg ar helyntiau 'r diwrnod, megis am Sextius y Philosophydd o Rufain, am yr hwn y tystiolaethir, bôb hŵyr wrth ei fined iw wely, y cwestiwnai ef ei enaid, Pa ddrwg a feddyginiaethasai, pa lygredigaeth a wrthwynebasai; ym mha fesur yr oedd ef ddim gwell nac o'r blaen; Siampl deilwng i Gristianogion iw chanlyn, a chwilyddus yw i ni fôd in fir o gyflawni yr hyn a wnai y Cenhedloedd in hyn.