A85479:356
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Oddiwrth bob mâth ar ddyfyrrwch, in enwedigol y cyfryw ac sy in tueddu at ddigrifwch cnawdol ac anianol; y rhai er eu bod in gyfreithlon ar amseroedd eraill, er hynny ydynt anghyfreithlon ar Did yr Arglwydd, gan eu bôd wedi eu gorafun yr eglur gan Dduw ei hun, megis gorchwylion ein Galwedigaeth, fell y cewch chwi in Isa. 58. 13. Lle mae 'r Arglwydd in gofyn gan ei bobl, Ar iddynt droi eu troed oddiwrth y Sabbath, heb wneuthur eu hewyllys ar ei did sanctaidd ef; a galw y Sabbath in hyfrydwch, Sanct yr Arglwydd in ogoneddus, a'i anrhydeddu ef, heb wneutbur eu ffyrdd eu hun, heb geisio eu hewyllys eu hun, na dywedyd eu geiriau eu hun. Ac fe welir wrth brawf, fod dyfyrrwch in lledratta ein serchiadau ni oddiwrth fyfyrdodau nefol, ac in ein dibwyllo ni yngwasanaeth Duw, in fwy nag y mae gweithredoedd ein Galwedigaeth ni. Ar yr hyn y dywaid St. Awstin▪ Quanto melius est arare quam saltare in Sabbato? Aug. in Enarrat▪ tit. Psal. 91. Pa faint gwell yw àredig na dawnsio ar Did yr Arglwydd?
2. Oddiwrth bob mâth ar ddyfyrrwch, yn enwedigol y cyfryw ac sy yn tueddu at ddigrifwch cnawdol ac anianol; y rhai er eu bod yn gyfreithlon ar amseroedd eraill, er hynny ydynt anghyfreithlon ar Ddydd yr Arglwydd, gan eu bôd wedi eu gorafun yr eglur gan Dduw ei hun, megis gorchwylion ein Galwedigaeth, fel y cewch chwi yn Isa. 58. 13. Lle mae 'r Arglwydd yn gofyn gan ei bobl, Ar iddynt droi eu troed oddiwrth y Sabbath, heb wneuthur eu hewyllys ar ei ddydd sanctaidd ef; a galw y Sabbath yn hyfrydwch, Sanct yr Arglwydd yn ogoneddus, a'i anrhydeddu ef, heb wneutbur eu ffyrdd eu hun, heb geisio eu hewyllys eu hun, na dywedyd eu geiriau eu hun. Ac fe welir wrth brawf, fod dyfyrrwch yn lledratta ein serchiadau ni oddiwrth fyfyrdodau nefol, ac yn ein dibwyllo ni yngwasanaeth Duw, yn fwy nag y mae gweithredoedd ein Galwedigaeth ni. Ar yr hyn y dywaid St. Awstin▪ Quanto melius est arare quam saltare in Sabbato? Aug. in Enarrat▪ tit. Psal. 91. Pa faint gwell yw àredig na dawnsio ar Ddydd yr Arglwydd?