A85479:343
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Mi a chwanegaf ray Annogaethau i'ch bywiogi i wneuthur ar ôl yr hyfforddiadau in gydwybodus.
3. Mi a chwanegaf rai Annogaethau i'ch bywiogi i wneuthur ar ôl yr hyfforddiadau yn gydwybodus.
Y rhesymmau am newidiad y Sabbath, o'r did olaf o'r wythnos ir cyntaf ydynt ar fir eiriau y rhain.
Y rhesymmau am newidiad y Sabbath, o'r dydd olaf o'r wythnos ir cyntaf ydynt ar fyrr eiriau y rhain.
I. Dwyfol ordinhâd, self Ordinhâd Christ ei hun, yr hyn fy in ymddangos ddwy ford.
I. Dwyfol ordinhâd, sef Ordinhâd Crist ei hun, yr hyn fy yn ymddangos ddwy ffordd.
1. Drwy yr henw a roddir ir Did cyntaf o'r wythnos, self, Did yr Arglwydd, Datc. 1. 10. Canys beth bynnag a gyfenwir in eiddo 'r Arglwydd in yr Scrythur Sanctaidd, Christ yw Awdur ac Ordeiniwr y peth hynny. Megis o ran Siampl, Swpper yr Arglwydd, oblegid iddo ef ei ordeinio; Pobl yr Arglwydd, oblegid iddo ef eu dewis hwynt; Cennadon yr Arglwydd, oblegid iddo ef eu hanfon hwynt. Ar yr unrhyw sail a rheswm y gelwir ar gyfenwad y did cyntaf or wythnos in Ddŷdd yr Arglwydd, a hynny nid drwy Greadigaeth, canys felly y mae pob dŷdd in eiddo ef or dechrevad, onid drwy Ddwyfol ordinhâd, oblegid ei ordeinio ef gan Grist yr Arglwydd, o ran Addoliad a Gwasanaeth Dwyfol, ac o ran coffadwriaeth am y gwaith mawr o Brynnedigaeth a weithiwyd ganddo ef. Cytuno â hyn y mae ymadrodd Augustin, yr hwn a ddywaid, may yr Apostolion a ordeiniodd Did yr Arglwydd iw gadw gydâ phôb parchedigaeth crefyddol, oblegid y did hwnnw y cyfododd ein Prynnwr oddiwrth y meirw, ac am