A85479:358
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
4. Oddiwrth bob geiriau bydol, ac ymddiddan am bethau daiarol, yr hyn y mae yr Arglwydd ei hun in ei wahardd drwy 'r Proph. Isaiah, Pen. 58. 13. Heb ddywedyd dy eiriau dy hun, yr hyn sy in arwyddocau siarad ac ymddiddan am fatterion bydol ar y did Sabbath; Canys lle mae yr Arglwydd wedi gorchymmyn ir holl ddŷn orphywys oddiwrth orchwylion bydol, yno y mae ef in gorchymmyn, megis ir law orphywys oddiwrth weithio, felly ir tafod oddiwrth ymddiddan am fatterion bydol: Eithr in y pedwerydd Gorchymmyn, y gorchymynnodd yr Arglwydd ir holl ddŷn orphywys oddiwrth fydol weithredoedd, lle y mae ef in dywedyd, Na wna ddim gwaith, &c. Am hynny y mae ef in gorchymmyn ir tafod orphywys oddiwrth chwedleva am bethau bydol, in gystal ac ir law oddiwrth weithio caethwaith a gorchywylion bydol. Mor feius gan hynny yw y rhai sy in gwneuthur Dŷdd yr Arglwydd in did o wneuthur cyfrif a gweithwŷr, a gwasnaethyddion, neu or hyn lleiaf in did o ymweled eu cyfeillion a'u cymmydogion, ac felly in ddilynawl in did o segur siarattach ynghylch eu helw a'u dyfyrrwch, neu fatterion rhai eraill?
4. Oddiwrth bob geiriau bydol, ac ymddiddan am bethau daiarol, yr hyn y mae yr Arglwydd ei hun yn ei wahardd drwy 'r Proph. Esay, Pen. 58. 13. Heb ddywedyd dy eiriau dy hun, yr hyn sy yn arwyddocau siarad ac ymddiddan am fatterion bydol ar y dydd Sabbath; Canys lle mae yr Arglwydd wedi gorchymmyn ir holl ddŷn orphywys oddiwrth orchwylion bydol, yno y mae ef yn gorchymmyn, megis ir llaw orphywys oddiwrth weithio, felly ir tafod oddiwrth ymddiddan am fatterion bydol: Eithr yn y pedwerydd Gorchymmyn, y gorchymynnodd yr Arglwydd ir holl ddŷn orphywys oddiwrth fydol weithredoedd, lle y mae ef yn dywedyd, Na wna ddim gwaith, &c. Am hynny y mae ef yn gorchymmyn ir tafod orphywys oddiwrth chwedleua am bethau bydol, yn gystal ac ir llaw oddiwrth weithio caethwaith a gorchywylion bydol. Mor feius gan hynny yw y rhai sy yn gwneuthur Dŷdd yr Arglwydd yn ddydd o wneuthur cyfrif a gweithwŷr, a gwasnaethyddion, neu or hyn lleiaf yn ddydd o ymweled eu cyfeillion a'u cymmydogion, ac felly yn ddilynawl yn ddydd o segur siarattach ynghylch eu helw a'u dyfyrrwch, neu fatterion rhai eraill?
5. Megis oddiwrth eiriau bydol, felly oddiwrth feddyliau bydol, in fwyaf y gallom. Canys,