A85479:371
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
4. Ar eich codiad, gollyngwch eich calonnau allan mewn difrifol fyfyrdod am Jesus Grist, ac am y pethau mowrion a wnaeth ac a oddefodd ef drosoch, ac am y lawyer hynny o bethau daionus y rhai ynddo a thrwyddo ef y gwnaethpwyd chwi in gyfrannogion o honynt.
4. Ar eich codiad, gollyngwch eich calonnau allan mewn difrifol fyfyrdod am Jesu Grist, ac am y pethau mowrion a wnaeth ac a oddefodd ef drosoch, ac am y llawer hynny o bethau daionus y rhai ynddo a thrwyddo ef y gwnaethpwyd chwi yn gyfrannogion o honynt.
5. Cyn gynted ac y codoch ar eich traed a'ch bod in barod, ewch or neilltu i ryw gyfle ar eich pennau eich hunain, [neu wrthych eich hunain] ac yno darllennwch ryw gyfran o'r Scrythyrau, yr hyn a fydd in fôdd rhagorol i dymmeru eich calonnau, ac i osod eich meddyliau mewn trefn; je â thrwy hyn y byddwch chwi wedi eich paratoi in well i wrando y gair a bregether, ac in gallu profi in well yr Athrawiaethau a draddoder, in ôl cyngor yr Apostol, Profwch bob peth, a deliwch yr hyn sy dda, 1 Thes. 5. 21.
5. Cyn gynted ac y codoch ar eich traed a'ch bod yn barod, ewch or neilltu i ryw gyfle ar eich pennau eich hunain, [neu wrthych eich hunain] ac yno darllennwch ryw gyfran o'r Scrythyrau, yr hyn a fydd yn fôdd rhagorol i dymmeru eich calonnau, ac i osod eich meddyliau mewn trefn; ie â thrwy hyn y byddwch chwi wedi eich paratoi yn well i wrando y gair a bregether, ac yn gallu profi yn well yr Athrawiaethau a draddoder, yn ôl cyngor yr Apostol, Profwch bob peth, a deliwch yr hyn sy dda, 1 Thes. 5. 21.
6. Megis y mae Gweddi in ddyledswydd iw chyflawni bob borau, felly in enwedigol y borau did yr Arglwydd; yr hyn sydd mewn rhywfesur i fôd in berthnasol ir diwrnod. Gwedi i chwi gan hynny gyrfesu eich pechodau, er erfyn pardwn am danynt, ynghŷd â gallu in eu herbyn, a grâs i wasanaethu Duw: yna gweddiwch tros y Gwenidog a throsoch eich hunain.