A85479:360
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Gwybyddwch fod pob Gorcbymmyn in cyrraedd hid in oed ein meddyliau ni, gan eu rhwymo hwy, in gystal a'n gweithredoedd ni oddiallan. O ran ecsampl: Y chweched Gorchymmyn sydd in gofyn ar ymgadw oddiwrth lofruddiog feddyliau, in gystal ac oddiwrth y weithred o Lofruddiaeth. Y seithfed, oddiwrth odinebus, ac anlladaidd feddyliau, in gystal ac oddiwrth y weithred o Odineo. ⟨p. 82⟩Yr wythfed, oddiwrth gybyddus feddyliau, in gystal ac oddiwrth y weithred o Gybydd-dod.
1. Gwybyddwch fod pob Gorcbymmyn yn cyrraedd hyd yn oed ein meddyliau ni, gan eu rhwymo hwy, yn gystal a'n gweithredoedd ni oddiallan. O ran ecsampl: Y chweched Gorchymmyn sydd yn gofyn ar ymgadw oddiwrth lofruddiog feddyliau, yn gystal ac oddiwrth y weithred o Lofruddiaeth. Y seithfed, oddiwrth odinebus, ac anlladaidd feddyliau, yn gystal ac oddiwrth y weithred o Odineo. ⟨p. 82⟩Yr wythfed, oddiwrth gybyddus feddyliau, yn gystal ac oddiwrth y weithred o Gybydd-dod.
2. Gwybyddwch, fod yr Arglwydd in gofyn nid in unig y dŷn oddiallan, a'r gweithredoedd oddiallan, iw cyffegru iddo ef, onid in enwedigol y dŷn oddifewn, Luc. 10. 27. O herwydd paham y dylem ni, in gymmaint ac y byddo possibl i ni allu, ddidoli ein meddyliau oddiwrth fatterion bydol, fell y gosoder hwy in hollawl ar fyfyrdodau ysprydol a nefol.
2. Gwybyddwch, fod yr Arglwydd yn gofyn nid yn unig y dŷn oddiallan, a'r gweithredoedd oddiallan, iw cyffegru iddo ef, onid yn enwedigol y dŷn oddifewn, Luc. 10. 27. O herwydd paham y dylem ni, yn gymmaint ac y byddo possibl i ni allu, ddidoli ein meddyliau oddiwrth fatterion bydol, fel y gosoder hwy yn hollawl ar fyfyrdodau ysprydol a nefol.