A85479:373
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
6. Megis y mae Gweddi in ddyledswydd iw chyflawni bob borau, felly in enwedigol y borau did yr Arglwydd; yr hyn sydd mewn rhywfesur i fôd in berthnasol ir diwrnod. Gwedi i chwi gan hynny gyrfesu eich pechodau, er erfyn pardwn am danynt, ynghŷd â gallu in eu herbyn, a grâs i wasanaethu Duw: yna gweddiwch tros y Gwenidog a throsoch eich hunain.
6. Megis y mae Gweddi yn ddyledswydd iw chyflawni bob borau, felly yn enwedigol y borau ddydd yr Arglwydd; yr hyn sydd mewn rhywfesur i fôd yn berthnasol ir diwrnod. Gwedi i chwi gan hynny gyrfesu eich pechodau, er erfyn pardwn am danynt, ynghŷd â gallu yn eu herbyn, a grâs i wasanaethu Duw: yna gweddiwch tros y Gwenidog a throsoch eich hunain.
1. Tros y Gwenidog, ar i Dduw roddi iddo ef ddrws ymadrodd, fell y gallo ef agoryd ei enau in hŷf i gyhoeddi Dirgeledigaethau yr Efengyl, je fell y gallo ef lefaru y Gair in gywir, in bûr, in rymmus ac in fuddiol, gan draddodi yr hyn sydd gymmwys a phrydlawn i'ch cyflwr chwi.
1. Tros y Gwenidog, ar i Dduw roddi iddo ef ddrws ymadrodd, fel y gallo ef agoryd ei enau yn hŷf i gyhoeddi Dirgeledigaethau yr Efengyl, ie fel y gallo ef lefaru y Gair yn gywir, yn bûr, yn rymmus ac yn fuddiol, gan draddodi yr hyn sydd gymmwys a phrydlawn i'ch cyflwr chwi.
2. Trosoch eich hunain, ar i Dduw ddeol allan o'ch pennau chwi bob amcanion▪ bydol gwibgrwydrus, ar a allont dynnu eich meddyliau ymma a thraw oddiwrth wrando y gair, ac felly gan dagu yr hâd nefol ei wneuthur ef in affrwythlon. Ac ar iddo ef roddi i chwi, megis clust i wrando, felly ddealldwriaeth i deal, doethineb i gymhwyso, barn i ddirnad, ffydd i gredu, coffadwriaeth i gadw, a grâs i osod ar waith yr hyn a glywoch; fell y byddo ir gair fôd felly in arogl bywyd i Dwyd i chwi, ac nid in arogl marwolaeth i farwolaeth.