A85479:387
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Megis ac y mae Onestrwydd, felly y mae Dyfal wrandawiad in angenrheidiol: tra yr ydys in pregethu y Gair, rhaid i chwi wrando arno in ddiwyd, megis rhai y byddei fawr ganddynt golly gair a draddodid iddynt. Y pwngc hwn sydd hynod am yr rhai a wrandawent ar Grist in pregethu, y rhai y dywedir, Luc. 19. 48. Ei bod in glynu wrtho, i wrando arno, neu fell y mae in y Groec, Yr holl bobl oedd in crogi arno iw wrando ef, fell yr oeddynt in ddyfal jawn i wrando, megis in anfodlon i ollwn dim heibio iddynt: felly y dylaech chwithau fôd mor ddyfal i wrando ar Weinidogaeth y Gair. Ir diben ymma, ⟨p. 87⟩gosodwch eich golwg in grâff ar y Pregethwr. Ac fell y mae ef in mined or nail bwynt ir llall, meddyliwch ar fir ar y pwynt a aeth heibio, yr hyn a gynnorthwya eich coffadwriaeth chwi in fawr jawn.
3. Megis ac y mae Onestrwydd, felly y mae Dyfal wrandawiad yn angenrheidiol: tra yr ydys yn pregethu y Gair, rhaid i chwi wrando arno yn ddiwyd, megis rhai y byddei fawr ganddynt golli gair a draddodid iddynt. Y pwngc hwn sydd hynod am yr rhai a wrandawent ar Grist yn pregethu, y rhai y dywedir, Luc. 19. 48. Ei bod yn glynu wrtho, i wrando arno, neu fel y mae yn y Groec, Yr holl bobl oedd yn crogi arno iw wrando ef, fel yr oeddynt yn ddyfal iawn i wrando, megis yn anfodlon i ollwn dim heibio iddynt: felly y dylaech chwithau fôd mor ddyfal i wrando ar Weinidogaeth y Gair. Ir diben ymma, ⟨p. 87⟩gosodwch eich golwg yn grâff ar y Pregethwr. Ac fel y mae ef yn myned or naill bwynt ir llall, meddyliwch ar fyr ar y pwynt a aeth heibio, yr hyn a gynnorthwya eich coffadwriaeth chwi yn fawr iawn.
4. Ffydd sydd rinwedd arall angenrheidiol o ran gwrando y gair er llesâd, ffŷdd, meddaf, drwy yr hon yr ydym ni, nid in unic in credu fod yr hyn a ddyfger i ni allan o'r Gair in wîr, onid yr ydym ni hefyd in ei gymmhwyso atom ein hunain, megis ped fai wedi ei gyfeirio atom ni mewn mod enwedigol. Gallu Duw yw'r Efengyl er Jechydwriaeth, medd yr Apostol, Rhuf. 1. 16. eithr i bwy? i bob un ar sydd in credu Ac medd yr Awdur at yr Hebraeaid,