A85479:374
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Tros y Gwenidog, ar i Dduw roddi iddo ef ddrws ymadrodd, fell y gallo ef agoryd ei enau in hŷf i gyhoeddi Dirgeledigaethau yr Efengyl, je fell y gallo ef lefaru y Gair in gywir, in bûr, in rymmus ac in fuddiol, gan draddodi yr hyn sydd gymmwys a phrydlawn i'ch cyflwr chwi.
1. Tros y Gwenidog, ar i Dduw roddi iddo ef ddrws ymadrodd, fel y gallo ef agoryd ei enau yn hŷf i gyhoeddi Dirgeledigaethau yr Efengyl, ie fel y gallo ef lefaru y Gair yn gywir, yn bûr, yn rymmus ac yn fuddiol, gan draddodi yr hyn sydd gymmwys a phrydlawn i'ch cyflwr chwi.
2. Trosoch eich hunain, ar i Dduw ddeol allan o'ch pennau chwi bob amcanion▪ bydol gwibgrwydrus, ar a allont dynnu eich meddyliau ymma a thraw oddiwrth wrando y gair, ac felly gan dagu yr hâd nefol ei wneuthur ef in affrwythlon. Ac ar iddo ef roddi i chwi, megis clust i wrando, felly ddealldwriaeth i deal, doethineb i gymhwyso, barn i ddirnad, ffydd i gredu, coffadwriaeth i gadw, a grâs i osod ar waith yr hyn a glywoch; fell y byddo ir gair fôd felly in arogl bywyd i Dwyd i chwi, ac nid in arogl marwolaeth i farwolaeth.
2. Trosoch eich hunain, ar i Dduw ddeol allan o'ch pennau chwi bob amcanion▪ bydol gwibgrwydrus, ar a allont dynnu eich meddyliau ymma a thraw oddiwrth wrando y gair, ac felly gan dagu yr hâd nefol ei wneuthur ef yn affrwythlon. Ac ar iddo ef roddi i chwi, megis clust i wrando, felly ddealldwriaeth i ddeall, doethineb i gymhwyso, barn i ddirnad, ffydd i gredu, coffadwriaeth i gadw, a grâs i osod ar waith yr hyn a glywoch; fel y byddo ir gair fôd felly yn arogl bywyd i Dwyd i chwi, ac nid yn arogl marwolaeth i farwolaeth.
Y ddwy ddyledswydd olaf hyn o ddarllen y Gair, a Gweddi, nid ydynt in unic iw cyflawni in y dirgel or neillni, onid hefyd in eich Teuluoedd a chyd â hwynt, os chwychwi y sydd Rieni, neu Feistraid Teuluoedd. Ac am hynny cyn i chwi fined ir Ordinhadau cyffredin, gelwch eich Teulu ynghŷd, a gweddiwch gyd â hwynt, megis am bethau eraill, felly in enwedigol am alluoedd grâs Duw, a chynnyrchiadau ei Yspryd ef ar eich calonnau a'ch ysprydoedd in y dyledswyddau sanctaidd a gymmeroch chwi mewn law, fell y galloch chwi eu cyflawni hwynt in y cyfryw fôdd ac y byddo gogoniant in dyfod i enw Duw, a rhyw fûdd a llessiant ysprydol i'ch eneidiau eich hunain.