A85479:395
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Hyn a'ch cynnorthwyai chwi a'ch gweision befyd in fawr jawn i deal a chredu yr hyn a glywsoch in gyhoeddus, os chwi a'i hail-adroddwch gartref, ac a chwedleuwch in ei gylch, a holy 'r profiadau a osodwyd i lawr, i gadarnhau yr hyn a adroddwyd.
3. Hyn a'ch cynnorthwyai chwi a'ch gweision befyd yn fawr iawn i ddeall a chredu yr hyn a glywsoch yn gyhoeddus, os chwi a'i hail-adroddwch gartref, ac a chwedleuwch yn ei gylch, a holi 'r profiadau a osodwyd i lawr, i gadarnhau yr hyn a adroddwyd.
II. Dyledswydd neilltuol arall yw canu Psalmau, canys hyn a ellir ac a ddylid ei gyflawni in eich teuluoedd, in gystal ac in y Gynnulleidfa. Hyn y mae Dafydd in ei ganmol am un ddyledswydd ar y Sabbath, megis Psal. 92. 1. Titl y Psalm yw, Psalm neu gân ar y did Sabbath. Ac fell hyn y mae in dechrau, Da yw moliannu'r Arglwydd; a chanu mawl i'th enw di y Goruchaf. Yr Ordinhâd hon a gwestiwnir gan ray, ac a wedir gan eraill, am hynny myfi, 1. A brofaf ei bôb in gyfreithlon, ac, 2. A roddaf ray hyfforddiadau am yr jawn fôdd iw chyflawni hi.
II. Dyledswydd neilltuol arall yw canu Psalmau, canys hyn a ellir ac a ddylid ei gyflawni yn eich teuluoedd, yn gystal ac yn y Gynnulleidfa. Hyn y mae Dafydd yn ei ganmol am un ddyledswydd ar y Sabbath, megis Psal. 92. 1. Titl y Psalm yw, Psalm neu gân ar y dydd Sabbath. Ac fel hyn y mae yn dechrau, Da yw moliannu'r Arglwydd; a chanu mawl i'th enw di y Goruchaf. Yr Ordinhâd hon a gwestiwnir gan rai, ac a wedir gan eraill, am hynny myfi, 1. A brofaf ei bôb yn gyfreithlon, ac, 2. A roddaf rai hyfforddiadau am yr iawn fôdd iw chyflawni hi.