A85479:429
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Ymweled âr clâf, ac âr cyfryw ray ac y caethiwer eu rhydd-did ford arall. Hyn a gawn ni fod in ei arfer gan ein Jachawdwr, a hynny ar y did Sabbath; ar ól darfod yr Ordinhadau cyhoeddus; megis Marc. 1. 29, 30. lle y ddarllennwn, ddarfod i'n Jachawdwr; a rhai o'i Apostolion, In y man wedi iddynt fined allan o'r Synagogue, fined ⟨p. 94⟩i ymweled â chwegr Simon Petr, yr hon oedd in gorwedd in glâf or crŷd; yr hyn sy in dangos, fod Christ in cyfrif ymweled âr clâf in weithred o drugaredd, cymmwys iw gwneuthur ar y Sabbath. Or hyn y gallwn ddyscu, fell y bo achos gyfiawn in ymgynnyg, i dreulio rhyw amser or Sabbath in ymweled âr clâf, a hynny in weithred enwedigol o drugaredd briodol ir Sabbath; je, ac in fôdd enwedigol i lenwi ein meddyliau ni â Myfyrdodau ysprydol, a'n genevau ag ymddiddanion sanctaidd, y rhai ydynt rannau o neilltuol sancteiddiad y Sabbath. Yr amser gan hynny y mae eraill in ei dreulio mewn seguryd, neu gymdeithas offer, neu in eisteddial wrth ei dry sau in yr heolydd, neu in rhodienna ar hid yr heolydd a'r meusydd, moeswch i ni ei dreulio ef in y gweithredoedd hyn o drugaredd, neu 'r cyffelyb.
2. Ymweled âr clâf, ac âr cyfryw rai ac y caethiwer eu rhydd-did ffordd arall. Hyn a gawn ni fod yn ei arfer gan ein Jachawdwr, a hynny ar y dydd Sabbath; ar ól darfod yr Ordinhadau cyhoeddus; megis Marc. 1. 29, 30. lle y ddarllennwn, ddarfod i'n Iachawdwr; a rhai o'i Apostolion, Yn y man wedi iddynt fyned allan o'r Synagog, fyned ⟨p. 94⟩i ymweled â chwegr Simon Petr, yr hon oedd yn gorwedd yn glâf or crŷd; yr hyn sy yn dangos, fod Crist yn cyfrif ymweled âr clâf yn weithred o drugaredd, cymmwys iw gwneuthur ar y Sabbath. Or hyn y gallwn ddyscu, fel y bo achos gyfiawn yn ymgynnyg, i dreulio rhyw amser or Sabbath yn ymweled âr clâf, a hynny yn weithred enwedigol o drugaredd briodol ir Sabbath; ie, ac yn fôdd enwedigol i lenwi ein meddyliau ni â Myfyrdodau ysprydol, a'n geneuau ag ymddiddanion sanctaidd, y rhai ydynt rannau o neilltuol sancteiddiad y Sabbath. Yr amser gan hynny y mae eraill yn ei dreulio mewn seguryd, neu gymdeithas ofer, neu yn eisteddial wrth ei dry sau yn yr heolydd, neu yn rhodienna ar hyd yr heolydd a'r meusydd, moeswch i ni ei dreulio ef yn y gweithredoedd hyn o drugaredd, neu 'r cyffelyb.