A85479:480
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Angenrheidrwydd y grâs hwn o ffydd i bob Cymmunwr sy in ymddangos.
II. Angenrheidrwydd y grâs hwn o ffydd i bob Cymmunwr sy yn ymddangos.
1. Oblegit heb ffydd ammhossibl yw rhyngu bôdd Duw mewn un sanctaidd ordinhâd, Heb. 11. 6. Eithr gwir ffydd a genmyl ein personau a'n gwasanaeth ni gŷdâ Duw, cyn belled a'u bôd mewn cymmeriad gyd ag ef, er iddynt fôd in lawn o wendid ac ammherffeithrwydd. Hyn a wnaeth Aberth Abel mor gymmeradwy gan Dduw. Os devi di gan hynny ir Ordinhâd hon heb ffŷdd, in lle dyhuddo Duw, ti a bwrcesi ei orthrwm ddigofaint ef.
1. Oblegit heb ffydd ammhossibl yw rhyngu bôdd Duw mewn un sanctaidd ordinhâd, Heb. 11. 6. Eithr gwir ffydd a genmyl ein personau a'n gwasanaeth ni gŷdâ Duw, cyn belled a'u bôd mewn cymmeriad gyd ag ef, er iddynt fôd yn llawn o wendid ac ammherffeithrwydd. Hyn a wnaeth Aberth Abel mor gymmeradwy gan Dduw. Os deui di gan hynny ir Ordinhâd hon heb ffŷdd, yn lle dyhuddo Duw, ti a bwrcesi ei orthrwm ddigofaint ef.
2. Oddieithr bod ffydd gennit cyn i ti nesau ir ordinhâd honno, nid yw y Sacrament in dyfod and megis in sêl wrth bapir gwyn, ac in gwasanaethu in unic i selio i fynu dy anghrediniaeth i ddamnedigaeth. Fe ofynnir gan hynny o anghenrhaid gan bob Cymmunwr teilwng, fod ganddo ffydd, cyn iddo ddyfod i Swpper yr Arglwydd: canys ni appwyntiwyd yr ordinhâd honno i weithio ffydd and iw chryfhau hi. Fe all dŷn ddyfod i weinidogaeth y gair er ei fod in ddiffydd, o herwydd ei bôd in ordinhâd a osodwyd gan Dduw o ran cenhedlu ffydd, in ôl a ddywaid yr Apostol, Ffydd sydd trwy glywed, Rhuf. 10. 17. And nid oes neb i ddyfod ir Sacrament, and y sawl y mae ffydd ganddynt wedi ei gweithio ynddynt. Am nad yw