A85479:493
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
I agoryd y darluniad hwn o Edifeirwch ar fir.
I agoryd y darluniad hwn o Edifeirwch ar fyr.
In gyntaf, meddaf, Grâs Yspryd Duw yw hi; self, dawn ⟨p. 108⟩a râdroddir gan Dduw, ac a weithir ynom ni drwy ei sanctaidd Yspryd ef, nid yw hi in dilliaw oddiwrth▪ rŷdd ewyllys dŷn, nac oddiwrth ddim nerth a gallu oi naturiaeth ef.
Yn gyntaf, meddaf, Grâs Yspryd Duw yw hi; sef, dawn ⟨p. 108⟩a râdroddir gan Dduw, ac a weithir ynom ni drwy ei sanctaidd Yspryd ef, nid yw hi yn dilliaw oddiwrth▪ rŷdd ewyllys dŷn, nac oddiwrth ddim nerth a gallu oi naturiaeth ef.
Drachefn, Edifeirwch sydd Adgyweiriad, in yr hyn y mae ei▪ gwir naturiaeth hi in sefyll, megis ac y mae y geiriau hyn, Dychwelyd, adnewyddu, newid, a'r cyffelyb in arwyddocau, y rhai in yr Scrythur a briodolir at Edifeirwch. Weithian mae in rhaid ir Adgyweiriad ymma fod in gyntaf ar y gallon; canys calon dŷn yw ffynnon ei holl weithredoedd ef; in awr gydâ rheswm rhaid yw ir ffynnon gael ei glanhau ai charthu, cyn y gallo y peth sydd in tarddu ac in ffrydio o honey fôd in jachus. Rhaid gan hynny yw bod calon wedi ei hadnewyddu, cyn y gallo bod buchedd gwedi ei hadgyweirio; canys ni ddichon ffrŵd ein gweithredoedd fod in dda, os bid ffynnon ein calon ni in llygredig. O hyn y mae, fod y Prophwydi in galw mor fynych am lânhâd y gallon, a'r Apostolion am ei hadnewyddiad ai newidiad hi, heb yr hyn nid yw pob adgyweiriad oddiallan onid gwir ffûg, adliw ac ymffrôst Pharisaeaidd. In ill olaf y chwanegir, Adgyweiriad buchedd a gweithredoedd oddiallan; canys megis nad yw gwneutur rhyw lûn ar adgyweiriad oddiallan, heb adgyweirio 'r gallon oddifewn, and ffûg ac ymffrost Phadisaeaidd, drwy yr hyn yr ŷm ni in siommi neu 'n twyllo eraill: felly nid yw, cymmeryd arnom wneuthur Adgyweiriad oddifewn, heb y ffrwythau o wellhâd oddiallan, ddim and pûr ffolineb, drwy yr hyn yr ydym ni in ein twyllo ein hunain. Canys ni ddichon bod Adgyweiriad wedi ei gwir wreiddio ai seilio in y gallon, na flaguro hi, ac ymddangos allan in y ffrwythau o fuchedd dduwiol. Mae 'r dŷn hwnnw gan hynny in ei dwyllo ei hunan, yr hwn sy in tybied fôd ei gallon wedi ei phuro a'i hadgyweirio, pan ydyw ei fuchedd in halogedig. Canys fell y mae 'r ffrwythydd in dangos y pren, felly y mae gweithredoedd dynion in eglurhau eu serchiadau hwynt.