A85479:485
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Mae gwir ffŷdd in râs sy in puro 'r gallon. Dyma nôd ffydd y mae 'r Apostol Petr in ei adrodd, Act. 15. 9. Gan burro eu calonnau hwy drwy ffydd. Ffydd in puro 'r gallon sy in arwyddocau daubeth.
2. Mae gwir ffŷdd yn râs sy yn puro 'r galon. Dyma nôd ffydd y mae 'r Apostol Petr yn ei adrodd, Act. 15. 9. Gan buro eu calonnau hwy drwy ffydd. Ffydd yn puro 'r galon sy yn arwyddocau dau beth.
1. Fod y credadyn in gwneuthur cydwybod o'i feddyliau oddifewn. Y digrêd gyd âr Pharisaeaid ydynt in unic in glanhau y tu allan ir cwppan, gan geisio ymgadw oddiwrth bechodau anfad ac ysceler, eithr a oddefant iw calonnau wibio ar lêd ac i ymrwyfo i fŷd o wag a nwyfus feddyliau, o halogedic a diles ddychymygion, a hynny heb ddim ymgnof nâ gwewyr cydwybod.
1. Fod y credadyn yn gwneuthur cydwybod o'i feddyliau oddifewn. Y digrêd gyd âr Pharisaeaid ydynt yn unic yn glanhau y tu allan ir cwppan, gan geisio ymgadw oddiwrth bechodau anfad ac ysceler, eithr a oddefant iw calonnau wibio ar lêd ac i ymrwyfo i fŷd o wag a nwyfus feddyliau, o halogedic a diles ddychymygion, a hynny heb ddim ymgnof nâ gwewyr cydwybod.
2. Fod ffydd in rhoddi tueddfryd tuag at lanhaad in y gallon, hid onid yw in cásáu ac in ffieiddio pechod, je ac in ymdrech in ei erbyn, er na allo hi in hollawl moi glanhau a'i gwaredu ei hunan oddiwrth bechod. Wedi tymmeru y gallon unwaith â ffydd, ni letteva hi mor pechod o'i bôdd, and hi a ddyru gais ar ei weithio ef allan fwyfwy. Drwy hyn gan hynny praw di wirionedd a chadernyd dy ffydd, a weithiodd hi ynot ti lanweithrym a phureiddrym dueddfrŷd i ymdrechu in erbyn dy lygredigaethau, ac iw gweithio hwynt fwyfwy allan oath gallon.