A85479:498
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Trwy dduwiol dristwch am bechodau o'r blaen. Wrth dduwiol dristwch, yr wyfi in meddwl, y cyfryw dristwch ar sydd in gwneuthur Duw in wrthddrych iddo, hynny yw, pan ydym ni in tristáu ac in galaru am bechod, in fwy o ran ein parch i Dduw, nâ rhag ofn cospedigaeth; am ddarfod i ni anfodloni Duw mor ddaionus, Tâd mor rasol, ac Arglwydd a Meistr mor haelionus▪ ⟨p. 110⟩Nid wyfi in gwadu nad yw in dda ac in ganmoladwy tristáu a galaru am bechod o ran cospedigaeth, rhag ofn uffern; Am ei fôd in baratóad da i dduwiol dristwch, and ni wasanaetha i ni orphywys in hynny. Wrth hyn gan hynny praw a hola wirionedd dy Edifeirwch; canys pale bynnac y mae gwir Edifeirwch, rhaid yw bôd yno dduwiol dristwch.
1. Trwy dduwiol dristwch am bechodau o'r blaen. Wrth dduwiol dristwch, yr wyfi yn meddwl, y cyfryw dristwch ar sydd yn gwneuthur Duw yn wrthddrych iddo, hynny yw, pan ydym ni yn tristáu ac yn galaru am bechod, yn fwy o ran ein parch i Dduw, nâ rhag ofn cospedigaeth; am ddarfod i ni anfodloni Duw mor ddaionus, Tâd mor rasol, ac Arglwydd a Meistr mor haelionus▪ ⟨p. 110⟩Nid wyfi yn gwadu nad yw yn dda ac yn ganmoladwy tristáu a galaru am bechod o ran cospedigaeth, rhag ofn uffern; Am ei fôd yn baratóad da i dduwiol dristwch, ond ni wasanaetha i ni orphywys yn hynny. Wrth hyn gan hynny praw a hola wirionedd dy Edifeirwch; canys pa le bynnac y mae gwir Edifeirwch, rhaid yw bôd yno dduwiol dristwch.
2. Dychwetyd oddiwrth y ffyrdd drygionus hynny, y rhai y rhodiasom ni ynddynt or blaen; fell y gellwch welled in ecsampl y rhai edifeiriol hynny, y mae coffadwriaeth am danynt in yr Scrythur, megis Paul, Petr, Zacheus ac eraill, y rhai ar eu hedifeirwch a ddychwelasant oddiwrth yr helyntiau drygionus hynny, y rhai y rhodiasant ynddynt or blaen. Wrth hyn gan hynny praw wirionedd dy edifeirwch: A weithiodd ef dróad a newidiad in ystôd dy fuchedd di? A aeth yr hên bethau heibio? A oes ymwrthod ar pechodau or blaen? A ymadewaist di a'th dyngu, a'th feddwdod, a'th butteinio, a'th dwyllo drwy bwysau a mesurau anghywir? A eli di ddywedyd am danot dy hun, megis ac y dywedodd Paul am y Corinthiaid, Mi a fum in dyngwr, in feddwyn, in ddifenwr, in gribddeiliwr, in odinebwr, in gybydd, a'r cyffelyb; Eithr in awr myfi a olchwyd, in awr myfi a sancteiddiwyd, je ac a gyfiawnhawyd, in enw yr Arglwydd Jesus, a thrwy Yspryd fy Nuw i,