A85479:496
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Mae Angenrheidrwydd y grâs ymma o Edifeirwch ym mhob Cymmunwr teilwng, ar ei nesaad at fwrdd yr Arglwydd, ⟨p. 109⟩in ymddangos, o herwydd ein bod in dyfod i dderbyn yr aberth dross bechod; eithr cynnyg derbyn yr aberth tros bechod, heb ddychwelyd oddiwrth bechod, yw cyfrif gwaed y Cyfammod in beth aflan. Nid yw anhyspys i ni, may un prif ddiben ein gwaith ni in nesáu at fwrdd yr Arglwydd, yw i dderbyn Christ megis ac yr offrymmodd ef ei hun in aberth ac in bridwerth Prynnedigaeth dross ein pechodau: Weithian yr hwn sy in edrych am faddevant pechod, rhaid yw bod ganddo lawn fwriad, ac in ôl ei fwriad, ffyddlon a difrifol ymgais ar ymwrthod a phechod, yr hyn sydd, ac a fydd ym mrŷd pob dŷn gwir edifeiriol, ac felly hefyd y dylai fôd. Mae yr Arglwydd gan hynny in gofyn ganddynt hwy, y sawl a ddygant eu haberthau atto ef er mwyn cael pardwn, Ar iddynt fwrw ymmaith ddrygioni eu gweithredoedd, a pheidio a gwneuthur drwg, a dyscu gwneuthur daioni, Isaiah 1. 16, 17, &c. Ac ar hynny y mae ef in dwyn i mewn y grasol wahoddiad ymma, Deuwch yr awr hon ac ymresymmwn. A pha wyneb gan hynny y meiddia pechadur anedifeiriol, yr hwn ni chyffyrddwyd â dim gwewyr cydwybod am ei bechodau a aethant heibio, ac nid oes ganddo ddim bwriad ar ddychwelyd oddiwrth ei bechodau am yr amser i ddyfod, ryfygu cymmeryd y corph hwnnw a ddrylliwyd, a'r gwaed hwnnw a dywalltwyd tros bechod? Y cyfryw fwytta ac yfed ar gorph a gwaed Christ, sydd eglur sathru Mab Duw tan draed, a chyfri in aflan waed y Cyfammod, self, in beth y gellir ei gymmyscu â phethau ammur ac aflan. Onid yw hyn in bôd in evog o gorph a gwaed Christ, pa beth a all fôd?
II. Mae Angenrheidrwydd y grâs ymma o Edifeirwch ym mhob Cymmunwr teilwng, ar ei nesaad at fwrdd yr Arglwydd, ⟨p. 109⟩yn ymddangos, o herwydd ein bod yn dyfod i dderbyn yr aberth dros bechod; eithr cynnyg derbyn yr aberth tros bechod, heb ddychwelyd oddiwrth bechod, yw cyfrif gwaed y Cyfammod yn beth aflan. Nid yw anhyspys i ni, mai un prif ddiben ein gwaith ni yn nesáu at fwrdd yr Arglwydd, yw i dderbyn Crist megis ac yr offrymmodd ef ei hun yn aberth ac yn bridwerth Prynnedigaeth dros ein pechodau: Weithian yr hwn sy yn edrych am faddeuant pechod, rhaid yw bod ganddo lawn fwriad, ac yn ôl ei fwriad, ffyddlon a difrifol ymgais ar ymwrthod a phechod, yr hyn sydd, ac a fydd ym mrŷd pob dŷn gwir edifeiriol, ac felly hefyd y dylai fôd. Mae yr Arglwydd gan hynny yn gofyn ganddynt hwy, y sawl a ddygant eu haberthau atto ef er mwyn cael pardwn, Ar iddynt fwrw ymmaith ddrygioni eu gweithredoedd, a pheidio a gwneuthur drwg, a dyscu gwneuthur daioni, Esay 1. 16, 17, &c. Ac ar hynny y mae ef yn dwyn i mewn y grasol wahoddiad ymma, Deuwch yr awr hon ac ymresymmwn. A pha wyneb gan hynny y meiddia pechadur anedifeiriol, yr hwn ni chyffyrddwyd â dim gwewyr cydwybod am ei bechodau a aethant heibio, ac nid oes ganddo ddim bwriad ar ddychwelyd oddiwrth ei bechodau am yr amser i ddyfod, ryfygu cymmeryd y corph hwnnw a ddrylliwyd, a'r gwaed hwnnw a dywalltwyd tros bechod? Y cyfryw fwytta ac yfed ar gorph a gwaed Crist, sydd eglur sathru Mab Duw tan draed, a chyfri yn aflan waed y Cyfammod, sef, yn beth y gellir ei gymmyscu â phethau ammur ac aflan. Onid yw hyn yn bôd yn euog o gorph a gwaed Crist, pa beth a all fôd?