A85479:509
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Lle mae cariad o'r gallon i Dduw ac i Jesus Grist, fe ⟨p. 113⟩fydd y cyfryw un in mynych Son am danynt. Canys ni ddichon y tafod na lefaro am y pethau a'r personau hynny ar y rhai y mae y gallon wedi ei gosod. Os bid calon dŷn wedi ei gosod ar y bŷd, a'i bethau, ei dafod ef a fŷdd fynychaf in siarad ac in ymddiddan am danynt. In yr un ffunyd, os bid calon dŷn wedi ei gosod ar Dduw ac Jesus Grist, ei dafod ef a fydd in mynych Siarad ac ymddiddan am danynt. Wrth hyn gan hynny praw a hola wirionedd dy gariad i Dduw ag Jesus Grist. Canys yr hwn a ddywaid ei fod in caru Duw, a'r Arglwydd Jesus Grist, ac etto sydd in meddwl am danynt, neu in siarad am danynt in anfynych, mae ef in ddiammeu in ei dwyllo ei hunan; canys ni all na feddyliom ac na soniom am y rhai yr ydym in eu gwîr garu.
2. Lle mae cariad o'r galon i Dduw ac i Jesu Grist, fe ⟨p. 113⟩fydd y cyfryw un yn mynych Son am danynt. Canys ni ddichon y tafod na lefaro am y pethau a'r personau hynny ar y rhai y mae y galon wedi ei gosod. Os bydd calon dŷn wedi ei gosod ar y bŷd, a'i bethau, ei dafod ef a fŷdd fynychaf yn siarad ac yn ymddiddan am danynt. Yn yr un ffunyd, os bydd calon dŷn wedi ei gosod ar Dduw ac Jesu Grist, ei dafod ef a fydd yn mynych Siarad ac ymddiddan am danynt. Wrth hyn gan hynny praw a hola wirionedd dy gariad i Dduw ag Jesu Grist. Canys yr hwn a ddywaid ei fod yn caru Duw, a'r Arglwydd Jesu Grist, ac etto sydd yn meddwl am danynt, neu yn siarad am danynt yn anfynych, mae ef yn ddiammeu yn ei dwyllo ei hunan; canys ni all na feddyliom ac na soniom am y rhai yr ydym yn eu gwîr garu.
3. Lle y mae cariad o'r gallon i Dduw ac i Jesus Grist, fe wnaiff ddŷn in ewyllysgar i wneuthur pob dim erddynt. Jacob a hoffodd Rachel, a pha beth ni wnaeth ef erddi? Efe a wasanaethodd ddau Brentissiaeth, ac nid oedd y cwbl in ei olwg ef and fell ychydig ddyddiau, am fod in hoff ganddo ef hi, Gen. 29. 20. Ac am hynny lle mae pûr gariad i Dduw a Christ, fe gymmell y cyfryw un iw osod ei hun allan drostynt hwy hid yr eithaf, i ymosod i ymarfer ar cyfryw ddyledswyddau, ar sydd anhawdd a chaledion, ac in gofyn lawyer o boen a llafur. Wrth hyn gan hynny praw a hola wirionedd dy gariad i Dduw ac iw fab Jesus Grist.