A85479:499
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Dychwetyd oddiwrth y ffyrdd drygionus hynny, y rhai y rhodiasom ni ynddynt or blaen; fell y gellwch welled in ecsampl y rhai edifeiriol hynny, y mae coffadwriaeth am danynt in yr Scrythur, megis Paul, Petr, Zacheus ac eraill, y rhai ar eu hedifeirwch a ddychwelasant oddiwrth yr helyntiau drygionus hynny, y rhai y rhodiasant ynddynt or blaen. Wrth hyn gan hynny praw wirionedd dy edifeirwch: A weithiodd ef dróad a newidiad in ystôd dy fuchedd di? A aeth yr hên bethau heibio? A oes ymwrthod ar pechodau or blaen? A ymadewaist di a'th dyngu, a'th feddwdod, a'th butteinio, a'th dwyllo drwy bwysau a mesurau anghywir? A eli di ddywedyd am danot dy hun, megis ac y dywedodd Paul am y Corinthiaid, Mi a fum in dyngwr, in feddwyn, in ddifenwr, in gribddeiliwr, in odinebwr, in gybydd, a'r cyffelyb; Eithr in awr myfi a olchwyd, in awr myfi a sancteiddiwyd, je ac a gyfiawnhawyd, in enw yr Arglwydd Jesus, a thrwy Yspryd fy Nuw i, 1 Cor. 6. 10, 11. A eli di ddywedyd fell hyn am danat dy hun, a hynny mewn gwiriovedd a phurdeb calon? yna y mae gennyt beth eglurdeb cyssurus o wirionedd a phurdeb dy edifeirwch. Eithr mor orwag y maent hwy in eu twyllo eu hunain, y rhai, o herwydd gwneuthur o honynt gyffess o'u pechodau wrth Dduw, a hynny ysgatfydd gyd ag ychydig ddagrau, a wenhieithiant iddynt eu hunain â thŷb dda o wir edifeirwch, pan ydynt hwy etto sith in byw ac in parhau in eu hên helyntiau pechadurus, gan ymdrybaeddu megis môch ym mrynti eu pechod, ac in y dom o'u budreddi pechadurus.
2. Dychwetyd oddiwrth y ffyrdd drygionus hynny, y rhai y rhodiasom ni ynddynt or blaen; fel y gellwch weled yn ecsampl y rhai edifeiriol hynny, y mae coffadwriaeth am danynt yn yr Scrythur, megis Paul, Petr, Zacheus ac eraill, y rhai ar eu hedifeirwch a ddychwelasant oddiwrth yr helyntiau drygionus hynny, y rhai y rhodiasant ynddynt or blaen. Wrth hyn gan hynny praw wirionedd dy edifeirwch: A weithiodd ef dróad a newidiad yn ystôd dy fuchedd di? A aeth yr hên bethau heibio? A oes ymwrthod ar pechodau or blaen? A ymadewaist di a'th dyngu, a'th feddwdod, a'th butteinio, a'th dwyllo drwy bwysau a mesurau anghywir? A elli di ddywedyd am danot dy hun, megis ac y dywedodd Paul am y Corinthiaid, Mi a fum yn dyngwr, yn feddwyn, yn ddifenwr, yn gribddeiliwr, yn odinebwr, yn gybydd, a'r cyffelyb; Eithr yn awr myfi a olchwyd, yn awr myfi a sancteiddiwyd, ie ac a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Yspryd fy Nuw i, 1 Cor. 6. 10, 11