A85479:512
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Cariad ith gymmydog sydd gaingc arall o'r cariad hwnnw ar a ofynnir gan bob Cymmunwr. Ynghylch yr hwn y dangosaf ar fir,
II. Cariad ith gymmydog sydd gaingc arall o'r cariad hwnnw ar a ofynnir gan bob Cymmunwr. Ynghylch yr hwn y dangosaf ar fyrr,
1. Yr Angenrheidrwydd o hono ym mhob Cymmunwr.
2. Y Prawf o hono.
I. Ei Hangenrheidrwydd sy in ymddangos, in gymmaint ac na dderbyn yr Arglwydd ddim o'r gwasanaeth yr wit ti in ei gyflawni iddo ef, onid wit ti mewn cariad a charedigrwydd âth gymmydog, megis ag y mae 'n Achubwr in llefaru, Mat. 5. 23, 24. Gan hynny, os dygi dy rôdd i'r allor, ac yno dyfod i'th gôf fod gan dy frawd ddim in dy erbyn; gâd yno dy rôdd ger bron yr allor, a dôs ymmaith: in gyntaf cymmoder di âth frawd, ac yno tired, ac offrwm dy rôdd. Hynny yw, os bid dim anghydfod rhyngot ti a'th gymydog, rhaid yw ceisio heddwch a chymmod ar frŷs. Canys heb hynny ni dderbyn Duw ddim addoliad na gwasanaeth a offrymmech di iddo. Er nad yw Christ ymma in crybwyll and am un math ar addoliad, yr hwn yw offrymmu Aberth, etto tan hwn y mae ef in cynnwys holl rannau a phob math o addoliad Duw, megis gweddio, gwrando, derbyn y Sacrament, neu 'r cyffelyb. Ac felly meddwl Christ yw, may pa bryd bynnac yr ymosodech ar un rhan o addoliad a gwasanaeth Duw, ac yno dyfod in dy gôf fod gan dy frawd ddim in dy erbyn, hynny yw, wneuthur o honot ti mewn ford in y bŷd gam âth frawd, neu niweid iddo. Neu fell y mae ym Marc, Pen. 11. 25. O bid gennych ddim in erbyn neb, hynny yw, O gwnaeth neb gam a chwi, in gyntaf, cymmoder di â'th frawd, neu maddeu dy frawd, ac yno dôs i ordinhâd Duw.