A85479:506
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ac megis ag y mae in rhaid i ni ddyfod â chariad i Dduw, felly hefyd â chariad i Jesus Grist, yr hwn a'n carodd ni felly, fell y bu ef farw o farwolaeth greulon felltigedig drosom ni. A thrwy hynny yr eglurodd ef fwy cariad i ni, nag iddo ei hun; i aelodau ei gorph Dirgel, nag i aelodau er gorph Naturiol. Canys efe a offrymmodd ei groph naturiol megis Aberth o ran prynnedigaeth ei gorph dirgel. Pa gariad mwy nâ hwn a ellir meddwl am dano? Oh pa fodd y mae 'n perthyn i ni gan hynny fined ir ordinhâd honno â chalonnau wedi eu hennyn gan gariad ir Jesus? Hyn am angenrheidrwydd ein cariad ni i Dduw, ac iw fab ef Jesus Grist.
Ac megis ag y mae yn rhaid i ni ddyfod â chariad i Dduw, felly hefyd â chariad i Jesu Grist, yr hwn a'n carodd ni felly, fel y bu ef farw o farwolaeth greulon felltigedig drosom ni. A thrwy hynny yr eglurodd ef fwy cariad i ni, nag iddo ei hun; i aelodau ei gorph Dirgel, nag i aelodau er gorph Naturiol. Canys efe a offrymmodd ei groph naturiol megis Aberth o ran prynnedigaeth ei gorph dirgel. Pa gariad mwy nâ hwn a ellir meddwl am dano? Oh pa fodd y mae 'n perthyn i ni gan hynny fyned ir ordinhâd honno â chalonnau wedi eu hennyn gan gariad ir Jesu? Hyn am angenrheidrwydd ein cariad ni i Dduw, ac iw fab ef Jesu Grist.
II. O ran y Prawf o hono ef, chwi a ellwch ei adnabod wrth y nodau ar arwyddion yma.
1. Lle y mae gwir gariad o'r gallon i Dduw, ac i Jesus Grist, y gallon a fŷdd in ymlenwi ar feddyliau am danynt. Y eyfryw un a fydd in mynych feddwl am Dduw, ac am Jesus Grist, ac am eu trarhagorawl gariad hwynt a eglurwyd yngwaith mawr y Prynnedigaeth. Ar ôl i Ddafydd ddywedyd, Psal. 119. 97. Mor gu gennif dy gyfraith di! mae ef in ebrwydd in chwanegu, Hi yw fy myfyrdod beunydd. Ac in ddiau, pa beth bynnac a phwy bynnac yr ydym ni in ei garu, ni allwn ni na feddyliom ac na fyfyriom am dano in fynych. In siccr, y sawl a garant Dduw, a'r Arglwydd Jesus Grist, mewn purdeb a gwirionedd, fe eill bod ganddynt lnaws o geog, a thrythyll, a bydol, a chybyddus feddyliau in eu calonnau, and nid ydynt in cymmeryd dim gwir hyfrydwch ynddynt, maent in hyttrach in ofid ac in faich iddynt; eithr y meddyliau am Dduw ac am Grist ydynt hyfryd a chomfforddus jawn iddynt. Wrth hyn gan hynny praw a hola wirionedd dy gariad i Dduw ac Jesus Grist.