A85479:522
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Wrth dy holy dy hun, fe fŷdd in gymmorth da, it ddarllen y cyfryw Draethawd ar sy in bennodol in gosod allan y pechodau neilltuol in erbyn y Gorchymmynion neilltuol. Canys pan ddangoser i ti drwy y cyfryw Draethawd fod y cyfryw beth in bechod in erbyn y cyfryw Orchymmyn, dy gydwybod, wrth ddarllen am y cyfryw bechodau, a fynega i ti, bechu o honot in hynny. Wedi holy a chwilio dy gallon in gwbl oll am dy holl bechodau adnabyddus, yna ymddarostwng ger bron Gorseddfaingc y grâs, drwy wir a diffuant gydnabod o honynt a'u cyfaddef, gan dy farnu a'th gondemnio dy hun in rhwyddaidd ger bron Duw, â chalon ddrylliog gystuddiedig.
Wrth dy holi dy hun, fe fŷdd yn gymmorth da, it ddarllen y cyfryw Draethawd ar sy yn bennodol yn gosod allan y pechodau neilltuol yn erbyn y Gorchymmynion neilltuol. Canys pan ddangoser i ti drwy y cyfryw Draethawd fod y cyfryw beth yn bechod yn erbyn y cyfryw Orchymmyn, dy gydwybod, wrth ddarllen am y cyfryw bechodau, a fynega i ti, bechu o honot yn hynny. Wedi holi a chwilio dy galon yn gwbl oll am dy holl bechodau adnabyddus, yna ymddarostwng ger bron Gorseddfaingc y grâs, drwy wir a diffuant gydnabod o honynt a'u cyfaddef, gan dy farnu a'th gondemnio dy hun yn rhwyddaidd ger bron Duw, â chalon ddrylliog gystuddiedig.
Fell y cyflawner dy gifts mewn mod dyladwy, rhaid yw bod ganddi y priodoliaethau ymma.
Fel y cyflawner dy gyffes mewn modd dyladwy, rhaid yw bod ganddi y priodoliaethau ymma.
1. Rhaid iddi fod in neilltuol, ac am bechodau enwedigol; fy meddwl yw, fod in rhaid i ti in dy gifts ddescyn at dy bechodau enwedigol a neilltuol. Y din halogediccaf in y bŷd a ddichon gyffessu in gyffredinol, a dywedyd, yr wyfi in cydnabod fy môd in Bechadur. Eithr os mini di wneuthur gwir gifts o bechod rhaid i ti agoryd dy bechodau in neilltuol o flaen Duw, ac o ran dy annogaeth i hynny, gwybydd, may po mwyaf neilltuol y biddy di in dy gifts, mwyaf o gyssur a gei di in hynny.