A85479:537
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
4. Nesâ at fwrdd yr Arglwydd gyd â pharchedig ofn, o ran gogoneddus fawrhydi Duw, yr hwn mewn mod enwedigol sydd bresennol ar yr ordinhâd honno, i welled ⟨p. 119⟩ei wahoddedigion, ac efe a sancteiddir in y rhai a nessânt atto, Lev. 10. 3.
4. Nesâ at fwrdd yr Arglwydd gyd â pharchedig ofn, o ran gogoneddus fawrhydi Duw, yr hwn mewn modd enwedigol sydd bresennol ar yr ordinhâd honno, i weled ⟨p. 119⟩ei wahoddedigion, ac efe a sancteiddir yn y rhai a nessânt atto, Lev. 10. 3.
5. Nessâ atto gyd â phôb gostyngeiddrwydd, oblegid dy waeledd ath anheilyngdod dy hun, yr hwn nid wit and llwch a lludw pechadurus; ac (os oes gennit ddim goleuni grâs ynot) ni eli lay nas gwypech, fod mwy o lygredigaeth in dy gallon dy hun, nag a wyddost ei fôd ynghalon un arall. Ac am hynny na ddywaid, Hwn a hwn sydd anwybodus, y llall ar llall sydd afreolus in ei fuchedd ai ymarweddiad, and dywed, Arglwydd, yr wyfi in anwybodus, yr wyfi in anheilwng i nessau attat in y cyfryw ordinbâd Sanctaidd, nid wyfi deilwng i gasclu y briwsion tan dy fwrdd di. A gwybydd, may po anheilyngaf ydwyt ti in dy olwg dy hun, teilyngach y cyfrif Duw dy fôd.
5. Nessâ atto gyd â phôb gostyngeiddrwydd, oblegid dy waeledd ath anheilyngdod dy hun, yr hwn nid wyt ond llwch a lludw pechadurus; ac (os oes gennit ddim goleuni grâs ynot) ni elli lai nas gwypech, fod mwy o lygredigaeth yn dy galon dy hun, nag a wyddost ei fôd ynghalon un arall. Ac am hynny na ddywaid, Hwn a hwn sydd anwybodus, y llall ar llall sydd afreolus yn ei fuchedd ai ymarweddiad, ond dywed, Arglwydd, yr wyfi yn anwybodus, yr wyfi yn anheilwng i nessau attat yn y cyfryw ordinbâd Sanctaidd, nid wyfi deilwng i gasclu y briwsion tan dy fwrdd di. A gwybydd, mai po anheilyngaf ydwyt ti yn dy olwg dy hun, teilyngach y cyfrif Duw dy fôd.