A85479:550
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. At gariad diffuant i Dduw, yr hwn oi hyrad râs, a'i oludog drugaredd a anfonodd ei anwyl fab o'i fynwes ei hun ir bŷd, i gymmeryd ein Naturiaeth ni arno, ac in honno i farw o farwolaeth chwerw felltigedig dross brynnedigaeth dŷn. Pwy a ddichon in ddigonol ryfeddu oblegid golud Cariad Duw i ddŷn in hynny? Pa fôdd y llofwn ni allan gŷdâ Dafydd, ac y dywedwn, Arglwydd, pa beth yw dŷn i ti iw gofio? Psal. 8. 4. In enwedig i ti iw gofio in gymmaint; ac y rhoddit fab dy gariad i ddioddef angeu melltigedig ar y Gross, i'n gwneuthur ni, y rhai oeddym blant digofaint, a chaethweision Satan, in feibion i Dduw ac Etifeddion bywyd ac Jechydwriaeth dragwyddol ▪ A pha wêdd y dylai yr anfeidrol ddiamgyffred ⟨p. 123⟩gariad Duw ymma, wresogi ac enynnu ein hoerion a'n rhewllyd galonnau ni â gwresog gariad iddo ef in i ôl?
1. At gariad diffuant i Dduw, yr hwn oi hyrad râs, a'i oludog drugaredd a anfonodd ei anwyl fab o'i fynwes ei hun ir bŷd, i gymmeryd ein Naturiaeth ni arno, ac yn honno i farw o farwolaeth chwerw felltigedig dros brynnedigaeth dŷn. Pwy a ddichon yn ddigonol ryfeddu oblegid golud Cariad Duw i ddŷn yn hynny? Pa fôdd y llofwn ni allan gŷdâ Dafydd, ac y dywedwn, Arglwydd, pa beth yw dŷn i ti iw gofio? Psal. 8. 4. Yn enwedig i ti iw gofio yn gymmaint; ac y rhoddit fab dy gariad i ddioddef angeu melltigedig ar y Groes, i'n gwneuthur ni, y rhai oeddym blant digofaint, a chaethweision Satan, yn feibion i Dduw ac Etifeddion bywyd ac Iechydwriaeth dragwyddol ▪ A pha wêdd y dylai yr anfeidrol ddiamgyffred ⟨p. 123⟩gariad Duw ymma, wresogi ac enynnu ein hoerion a'n rhewllyd galonnau ni â gwresog gariad iddo ef yn i ôl?
2. Y coffa am farwolaeth Christ a ddylai weithio ein calonnau ni i fynu at gariad gwressog i Grist, am ei ryfeddol gariad hwnnw, in ei roddi ei hun drosom, ei gorph iw groeshoelio, ei waed iw golly, a'i enaid i ddwyn y baich trwm anfeidrol o ddigofaint ei Dâd dyledus i'n Pechodau ni, yr hyn a wnaeth iddo chwysu y defnynnau gwaed in yr Hard, a llefain â lief uchel ar y Gross, fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gadewaist? Oh pa fodd y dylai hyn draserchu ein eneidiau ni gan ryfeddod, wrth ystyried faint ydoedd ei gariad ef! ac ennyn ein calonnau â chariad iddo ef drachefn, yr hwn a wnaeth ac a oddefodd cymmaint drosom ni? Pa fôdd y dylai y myfyrdod am amryw ddioddefiadau Christ, in enwedig am ei Angeu a'i Ddioddefaint chwerw ef, weithio ynom ni wŷn sancteiddlân o gariad?