A85479:542
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Cofia farwolaeth Christ, yr hyn yw gorchymmyn Christ yngosodiad yr Ordinhâd ymma; canys medd efe, Gwnewch hyn er coffa am danaf, self, mewn coffâd o'm marwolaeth a'm dioddefaint chwerw, Luc. 22. 19. Canys yr Apostol Paul wrth egluro y coffa ymma am Grist, sydd in ei gymmhwyso at ei farwolaeth, a'i dangosiad hi allan, 1 Cor. 11. 25, 26. Gwnewch hyn, medd ef, er coffa am danaf: canys cynnifer gwaith bynnag y bwyttaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwppan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo. Ac felly yr ordeiniwyd yr Ordinhâd hon o Swpper yr Arglwydd o ran parchus goffa am yr Aberth mawr hwnnw, yr Arglwydd Jesus Grist, fell nad anghofid ei farwolaeth ef bŷth, and y byddei in wastad in barod in ein coffadwriaethau. A pha ham y rhaid cofio ei farwolaeth ef fell hyn? In ddiammeu o herwydd may drwyddi hi y cadarnhawyd ac y seliwyd y Cyfammod o râs, y pwrcaswyd ein Prynnedigaeth ni, y gwnaethpwyd jawn tros ein pechodau, y gwnaethpwyd cymmod rhyngom ni â Duw, ac y gosodwyd sail ein grasusau. Ac am hynny gollwng allan dy gallon ar y Bwrdd mêwn dwys fyfyrdod am amryw ddioddefiadau Christ, yr hyn yw gorchwyl pennaf yr Ordinhâd bond. A myfyria nid in unic am ei ddioddefiadau ef ar ei farwolaeth, onid hefyd in holl ystod ei fywyd, self o'i breseb iw gross, o'i anedigaeth iw farwolaeth. Canys didor ddioddefaint oedd ei holl einioes ef. Myfyria gan hynny am ei enedigaeth gwael ef, a'i ffoadigaeth in ei febyd, am yr amryw wradwyddiadau a fwriwyd arno ef o amser i amser; je am ei aml erlidiadau, am eu creulon driniaeth hwynt arno ef in amser ei farwolaeth, pan ddaliasant ef megis lleidr, ai rwymo, ai farnu in evog, ai gondemnio megis Drwgweithredwr, pan gernodiasant ef â'u dwylo, y pwyasant ef â fin, y gwialennodiasant ef â fflanghellau, gan dynnu cwysau hirion ar ei gefn ef, y plethasant goron o drain blaenllym ar ⟨p. 121⟩ei ben, y gosodasant gross drom ar ei gefn, yr hoeliasant ei ddwylo a'i draed wrth y Gross honno, y rhoddasant iddo fustl a finegr iw ddiodi, ac y cystuddiasant ef in ddirfawr amryw ffyrdd. Fall hyn y drylliwyd ei gorph ef âg arteithiau. Ac oblegid hyn, fe ddywedir, Isaiah 53. 3. Ei fôd ef in ŵr gofidus, a chynnefin a dolur. In enwedigol pan wit ti bresennol in y Sacrament, dyro dro gydâ Christ in yr Hard, drwy fyfyrio am ei Ing chwerwdost ef, lle y chwysodd ef y defnynnau gwaed, yr hyn ni ddarllennwyd, ac ni chlybwyd erioed am neb na chynt na chwedi;