A85479:555
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
6. Y coffa am farwolaeth Christ a ddylai weithio ein calonnau ni i fynu at ryw ddyledus ddiolchgarwch i Dduw, a'i fâb ef Jesus Grist, am eu hanrhaethawl gariad ai trugaredd tu ag atom ni in bin. Diolchgarwch sydd râs iw harfer nid in unic ar ôl derbyn y Sacrament, and hefyd tra 'r ydym ni in bresennol in yr Ordinhâd. Pan yw ein calonnau ni wedi ymserchu â'r teimlad o anfeidrol gariad Duw'r Tâd, in rhoddi ei anwyl fab allan oi fynwes i farw drosom; ac o anrhaethawl gariad Christ in offrymmu ei Gorph ei hun in Aberth ar y Gross dross ein Pechodau ni, yna y dylent dory allan mewn moliant a diolchgarwch i Dduw 'r Tâd, a'i fab ef Jesus Grist.
6. Y coffa am farwolaeth Crist a ddylai weithio ein calonnau ni i fynu at ryw ddyledus ddiolchgarwch i Dduw, a'i fâb ef Jesu Grist, am eu hanrhaethawl gariad ai trugaredd tu ag attom ni yn byn. Diolchgarwch sydd râs iw harfer nid yn unic ar ôl derbyn y Sacrament, ond hefyd tra 'r ydym ni yn bresennol yn yr Ordinhâd. Pan yw ein calonnau ni wedi ymserchu â'r teimlad o anfeidrol gariad Duw'r Tâd, yn rhoddi ei anwyl fab allan oi fynwes i farw drosom; ac o anrhaethawl gariad Crist yn offrymmu ei Gorph ei hun yn Aberth ar y Groes dros ein Pechodau ni, yna y dylent dorri allan mewn moliant a diolchgarwch i Dduw 'r Tâd, a'i fab ef Jesu Grist.
III Dyledswydd arall iw chyflawni ar yr Ordinhâd, yw gosod ⟨p. 125⟩dy radau ar waith, in fwy enwedigol dy ffydd a'th edifeirwch. Nid digon i ti ddwyn ffydd, edifeirwch, a rhadau eraill ir Sacrament, eithr rhaid yw i ti hefyd yno gynnhyrfu dy radau ai harfer hwynt, onid ê ni biddy di and derbyniwr anheilwng. Canys fe all nid in unic y dŷn annuwiol yr hwn sydd heb râs, and hefyd plentyn Duw yr hwn sydd â gwîr râs ganddo, dderbyn y Sacrament in anheilwng, a mined ymmaith heb ddim cyssur neu lesáad in y bŷd; hynny yw, oddieithr iddo ef yno gynnhyrfu ei radau a'u gosod hwynt ar waith. Canys y Sacramentau nid ydynt in gweithio megis Physygwriaeth, drwy rinwedd ynglŷn ynddynt hwy, eithr in ôl timer y sawl sy in gyfrannog o honynt. Ac am hynny, fell y mynnit ti fod in un o'r gwahoddedigion teilwng, a bod in gyfrannog o gyssur yr Ordinhâd, cynnhyrfa dy radau a gosod hwy ar waith. Megis,