A85479:546
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Efe a syrthiodd ar ei wyneb ar y llawr oer, yr hyn oedd ddigon i yrru y gwaed i fewn, Mat. 26. 39.
3. Yr ydoedd ef mewn tristwch dirfawr, yr hyn sydd naturiol i dynnu y gwaed oddiwrth y rhannau oddiallan tu ac at y gallon, Mar. 14. 33. ac etto ar noswaith oer, in gorwedd ar y llawr oer, ac mewn ofn a thristwch dirfawr, efe a chwysodd ddefnynnau gwaed. Pwy a ddichon ddirnad chwerwdost ymdrech ein Jachawdwr y prŷd hynny? A pha beth ydoedd yr hyn a'i dŷg ef ir ymdrech hwnnw? In ddiammeu y teimlad o'r hyn yr oedd ef iw oddef, fall yr ymddengus wrth ei Weddi ef in ei Ymdrech, fy Nhâd, os yw bossibl, aed y cwppan hwn heibio oddiwrthif. Weithian, os oedd y teimlad o'r hyn yr oedd ef iw oddef mor chwerw, och mor chwerw dybygwch chwi oedd ⟨p. 122⟩ei ddioddefiadau ef ar y Gross, pan lefodd ef â llêf uchel, fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gadewaist? Mat. 27.46. Yr hyn eiriau nid ydynt in arwyddocau, fôdy Duwdod wedi ei wahanu oddiwrth y Dyndod; and darfod ir Tâd dynnu oddiwrtho ef bob teimlad gwybyddus o'i garedigol ffafor, ac attal galluogaeth y pelydr hwnnw a allay mewn un mod lonni ei enaid trallodus ef; in gymmaint ac y gallasai Grist in hydda gyfodi geiriau yr Iddewon caethion, a dywedyd, Gwelwch ac edrychwch a oes y faith ofid am gofid i, âr hwn y gofidiodd yr Arglwydd fi, in nŷdd angerdd ei ddigter? Galar. 1. 12.
3. Yr ydoedd ef mewn tristwch dirfawr, yr hyn sydd naturiol i dynnu y gwaed oddiwrth y rhannau oddiallan tu ac at y galon, Mar. 14. 33. ac etto ar noswaith oer, yn gorwedd ar y llawr oer, ac mewn ofn a thristwch dirfawr, efe a chwysodd ddefnynnau gwaed. Pwy a ddichon ddirnad chwerwdost ymdrech ein Iachawdwr y prŷd hynny? A pha beth ydoedd yr hyn a'i dŷg ef ir ymdrech hwnnw? Yn ddiammeu y teimlad o'r hyn yr oedd ef iw oddef, fal yr ymddengus wrth ei Weddi ef yn ei Ymdrech, fy Nhâd, os yw bossibl, aed y cwppan hwn heibio oddiwrthif. Weithian, os oedd y teimlad o'r hyn yr oedd ef iw oddef mor chwerw, och mor chwerw dybygwch chwi oedd