A85479:548
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Galw y pethau hyn i'th gôf in amser gweinidogaethiad y Sacrament, nid in unic pan wit ti in bwytta y Bara, ac in yfed y Gwîn; eithr hefyd pan welych di dory y Bara, a thywallt y Gwin, yna ti a ddylit feddwl pa fodd y torrwyd Corph Christ ag arteithiau, ac y tywalltwyd ei Waed ef er maddevant pechodau; a hefyd pan welych eraill in cymmeryd y Bara, a'r Gwin, yna ti a ddylit fwydo dy feddyliau in y myfyrdod am chwerw farwolaeth Christ, a'i aml ddioddefiadau.
Galw y pethau hyn i'th gôf yn amser gweinidogaethiad y Sacrament, nid yn unic pan wyt ti yn bwytta y Bara, ac yn yfed y Gwîn; eithr hefyd pan welych di dorri y Bara, a thywallt y Gwin, yna ti a ddylit feddwl pa fodd y torrwyd Corph Crist ag arteithiau, ac y tywalltwyd ei Waed ef er maddeuant pechodau; a hefyd pan welych eraill yn cymmeryd y Bara, a'r Gwin, yna ti a ddylit fwydo dy feddyliau yn y myfyrdod am chwerw farwolaeth Crist, a'i aml ddioddefiadau.
Y coffa ymma am farwolaeth Christ in y Sacrament, ni wasanaetha iddo fód in noethlwm goffâd Historiawl am dano ef, gan ymfodloni âr goffâd o'r Histori am farwolaeth Christ, fell y gosodir hi allan gan yr Efangylwŷr, eithr rhaid iddo fod in goffa gweithiawl a Phraithig, in gweithio dy gallon di i fynu,
Y coffa ymma am farwolaeth Crist yn y Sacrament, ni wasanaetha iddo fód yn noethlwm goffâd Historiawl am dano ef, gan ymfodloni âr goffâd o'r Histori am farwolaeth Crist, fel y gosodir hi allan gan yr Efangylwŷr, eithr rhaid iddo fod yn goffa gweithiawl a Phraithig, yn gweithio dy galon di i fynu,
1. At gariad diffuant i Dduw, yr hwn oi hyrad râs, a'i oludog drugaredd a anfonodd ei anwyl fab o'i fynwes ei hun ir bŷd, i gymmeryd ein Naturiaeth ni arno, ac in honno i farw o farwolaeth chwerw felltigedig dross brynnedigaeth dŷn. Pwy a ddichon in ddigonol ryfeddu oblegid golud Cariad Duw i ddŷn in hynny? Pa fôdd y llofwn ni allan gŷdâ Dafydd, ac y dywedwn, Arglwydd, pa beth yw dŷn i ti iw gofio?