A85479:561
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ac megis nad wit ti i orphywys in yr elfennau oddiallan, na chwaith in y defodau ar gweithredoedd oddiallan; eithr wrth edrych arnynt hwy yr wit ti â llygad ffŷdd i welled ac i deal y pethau ysprydol a arwyddoceir drwyddynt: Pan ganffyddech di gan hynny y Gwenidog in torri'r bara, yna myfyria ar amryw ddioddefiadau Christ, ac â llygad ffŷdd, edrych ar Jesus Grist in crogi ar y Gross, yno in ymdrech â digofaint ei Dâd, ac in griddfanu tan bwys a baich ein pechodau ni; Cenfydd ei gorph bendigedig wedi ei dory ai ddryllio â ffonnodiau ag archollion, â fflangellau a hoelion.
Ac megis nad wyt ti i orphywys yn yr elfennau oddiallan, na chwaith yn y defodau ar gweithredoedd oddiallan; eithr wrth edrych arnynt hwy yr wyt ti â llygad ffŷdd i weled ac i ddeall y pethau ysprydol a arwyddoceir drwyddynt: Pan ganffyddech di gan hynny y Gwenidog yn torri'r bara, yna myfyria ar amryw ddioddefiadau Crist, ac â llygad ffŷdd, edrych ar Jesu Grist yn crogi ar y Groes, yno yn ymdrech â digofaint ei Dâd, ac yn griddfanu tan bwys a baich ein pechodau ni; Cenfydd ei gorph bendigedig wedi ei dorri ai ddryllio â ffonnodiau ag archollion, â fflangellau a hoelion.
Drachefn, pan welech di y Gweinidog in tywallt y gwîn, yna arfer a gosod dy ffydd ar waith yngwaed Jesus Grist, a'i dywalltiad ef, yr hyn mewn gwirionedd sydd in dangos cyrhaeddiad dioddefiadau Christ, self hid at gymmeryd ymmaith ei einioes ef, yr hyn yw cyrrhaeddiad eithaf dioddefaint dŷn in y bid ymma. Y ddau hyn gan hynny, Torri corph Christ, a thywallt ei waed ef, a gymmwys gydgyssylltir; y cyntaf i ddangos dygnedd dioddefiadau Christ, yr ail, eu cyrrhaeddiad hwynt, self cyn belled ac yr oedd in bossibl iddynt fôd, hid at dywalltiad ei waed ef.
Drachefn, pan welech di y Gweinidog yn tywallt y gwîn, yna arfer a gosod dy ffydd ar waith yngwaed Jesu Grist, a'i dywalltiad ef, yr hyn mewn gwirionedd sydd yn dangos cyrhaeddiad dioddefiadau Crist, sef hyd at gymmeryd ymmaith ei einioes ef, yr hyn yw cyrrhaeddiad eithaf dioddefaint dŷn yn y byd ymma. Y ddau hyn gan hynny, Torri corph Crist, a thywallt ei waed ef, a gymmwys gydgyssylltir; y cyntaf i ddangos dygnedd dioddefiadau Crist, yr ail, eu cyrrhaeddiad hwynt, sef cyn belled ac yr oedd yn bossibl iddynt fôd, hyd at dywalltiad ei waed ef.