A85479:549
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y coffa ymma am farwolaeth Christ in y Sacrament, ni wasanaetha iddo fód in noethlwm goffâd Historiawl am dano ef, gan ymfodloni âr goffâd o'r Histori am farwolaeth Christ, fell y gosodir hi allan gan yr Efangylwŷr, eithr rhaid iddo fod in goffa gweithiawl a Phraithig, in gweithio dy gallon di i fynu,
Y coffa ymma am farwolaeth Crist yn y Sacrament, ni wasanaetha iddo fód yn noethlwm goffâd Historiawl am dano ef, gan ymfodloni âr goffâd o'r Histori am farwolaeth Crist, fel y gosodir hi allan gan yr Efangylwŷr, eithr rhaid iddo fod yn goffa gweithiawl a Phraithig, yn gweithio dy galon di i fynu,
1. At gariad diffuant i Dduw, yr hwn oi hyrad râs, a'i oludog drugaredd a anfonodd ei anwyl fab o'i fynwes ei hun ir bŷd, i gymmeryd ein Naturiaeth ni arno, ac in honno i farw o farwolaeth chwerw felltigedig dross brynnedigaeth dŷn. Pwy a ddichon in ddigonol ryfeddu oblegid golud Cariad Duw i ddŷn in hynny? Pa fôdd y llofwn ni allan gŷdâ Dafydd, ac y dywedwn, Arglwydd, pa beth yw dŷn i ti iw gofio? Psal. 8. 4. In enwedig i ti iw gofio in gymmaint; ac y rhoddit fab dy gariad i ddioddef angeu melltigedig ar y Gross, i'n gwneuthur ni, y rhai oeddym blant digofaint, a chaethweision Satan, in feibion i Dduw ac Etifeddion bywyd ac Jechydwriaeth dragwyddol ▪ A pha wêdd y dylai yr anfeidrol ddiamgyffred ⟨p. 123⟩gariad Duw ymma, wresogi ac enynnu ein hoerion a'n rhewllyd galonnau ni â gwresog gariad iddo ef in i ôl?
1. At gariad diffuant i Dduw, yr hwn oi hyrad râs, a'i oludog drugaredd a anfonodd ei anwyl fab o'i fynwes ei hun ir bŷd, i gymmeryd ein Naturiaeth ni arno, ac yn honno i farw o farwolaeth chwerw felltigedig dros brynnedigaeth dŷn. Pwy a ddichon yn ddigonol ryfeddu oblegid golud Cariad Duw i ddŷn yn hynny? Pa fôdd y llofwn ni allan gŷdâ Dafydd, ac y dywedwn, Arglwydd, pa beth yw dŷn i ti iw gofio?