A85479:562
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Drachefn, pan welech di y Gweinidog in tywallt y gwîn, yna arfer a gosod dy ffydd ar waith yngwaed Jesus Grist, a'i dywalltiad ef, yr hyn mewn gwirionedd sydd in dangos cyrhaeddiad dioddefiadau Christ, self hid at gymmeryd ymmaith ei einioes ef, yr hyn yw cyrrhaeddiad eithaf dioddefaint dŷn in y bid ymma. Y ddau hyn gan hynny, Torri corph Christ, a thywallt ei waed ef, a gymmwys gydgyssylltir; y cyntaf i ddangos dygnedd dioddefiadau Christ, yr ail, eu cyrrhaeddiad hwynt, self cyn belled ac yr oedd in bossibl iddynt fôd, hid at dywalltiad ei waed ef.
Drachefn, pan welech di y Gweinidog yn tywallt y gwîn, yna arfer a gosod dy ffydd ar waith yngwaed Jesu Grist, a'i dywalltiad ef, yr hyn mewn gwirionedd sydd yn dangos cyrhaeddiad dioddefiadau Crist, sef hyd at gymmeryd ymmaith ei einioes ef, yr hyn yw cyrrhaeddiad eithaf dioddefaint dŷn yn y byd ymma. Y ddau hyn gan hynny, Torri corph Crist, a thywallt ei waed ef, a gymmwys gydgyssylltir; y cyntaf i ddangos dygnedd dioddefiadau Crist, yr ail, eu cyrrhaeddiad hwynt, sef cyn belled ac yr oedd yn bossibl iddynt fôd, hyd at dywalltiad ei waed ef.
Drachefn, pan welych di y Gweinidog in rhoddi y bara ar gwîn ir Cymmunwyr, yna cenfydd trwy lygad ffŷdd gariad Duw in rhoddi ei fab i bob Cymmunwr credadwy. Canys cyn wiried a bôd y Gweinidog in rhoddi y bara ar gwin, cyn wiried a hynny y mae Duw mewn gwirionedd in rhoddi Christ, ynghŷd a hôll ddonniau a llesáad ei farwolaeth ai ddioddefaint, megis Cymmod, Prynnedigaeth, Maddevant pechodau, &c. Canys nid oes yno Gyffelybiaeth in unic, and gwir ac uniawn osod Christ allan, megis wedi ei dory dross ein pechodau ni.
Drachefn, pan welych di y Gweinidog yn rhoddi y bara ar gwîn ir Cymmunwyr, yna cenfydd trwy lygad ffŷdd gariad Duw yn rhoddi ei fab i bob Cymmunwr credadwy. Canys cyn wiried a bôd y Gweinidog yn rhoddi y bara ar gwin, cyn wiried a hynny y mae Duw mewn gwirionedd yn rhoddi Crist, ynghŷd a hôll ddonniau a llesáad ei farwolaeth ai ddioddefaint, megis Cymmod, Prynnedigaeth, Maddeuant pechodau, &c. Canys nid oes yno Gyffelybiaeth yn unic, ond gwir ac uniawn osod Crist allan, megis wedi ei dorri dros ein pechodau ni.