A85479:556
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
III Dyledswydd arall iw chyflawni ar yr Ordinhâd, yw gosod ⟨p. 125⟩dy radau ar waith, in fwy enwedigol dy ffydd a'th edifeirwch. Nid digon i ti ddwyn ffydd, edifeirwch, a rhadau eraill ir Sacrament, eithr rhaid yw i ti hefyd yno gynnhyrfu dy radau ai harfer hwynt, onid ê ni biddy di and derbyniwr anheilwng. Canys fe all nid in unic y dŷn annuwiol yr hwn sydd heb râs, and hefyd plentyn Duw yr hwn sydd â gwîr râs ganddo, dderbyn y Sacrament in anheilwng, a mined ymmaith heb ddim cyssur neu lesáad in y bŷd; hynny yw, oddieithr iddo ef yno gynnhyrfu ei radau a'u gosod hwynt ar waith. Canys y Sacramentau nid ydynt in gweithio megis Physygwriaeth, drwy rinwedd ynglŷn ynddynt hwy, eithr in ôl timer y sawl sy in gyfrannog o honynt. Ac am hynny, fell y mynnit ti fod in un o'r gwahoddedigion teilwng, a bod in gyfrannog o gyssur yr Ordinhâd, cynnhyrfa dy radau a gosod hwy ar waith. Megis,
III Dyledswydd arall iw chyflawni ar yr Ordinhâd, yw gosod ⟨p. 125⟩dy radau ar waith, yn fwy enwedigol dy ffydd a'th edifeirwch. Nid digon i ti ddwyn ffydd, edifeirwch, a rhadau eraill ir Sacrament, eithr rhaid yw i ti hefyd yno gynnhyrfu dy radau ai harfer hwynt, onid ê ni byddi di ond derbyniwr anheilwng. Canys fe all nid yn unic y dŷn annuwiol yr hwn sydd heb râs, ond hefyd plentyn Duw yr hwn sydd â gwîr râs ganddo, dderbyn y Sacrament yn anheilwng, a myned ymmaith heb ddim cyssur neu lesáad yn y bŷd; hynny yw, oddieithr iddo ef yno gynnhyrfu ei radau a'u gosod hwynt ar waith. Canys y Sacramentau nid ydynt yn gweithio megis Physygwriaeth, drwy rinwedd ynglŷn ynddynt hwy, eithr yn ôl tymer y sawl sy yn gyfrannog o honynt. Ac am hynny, fel y mynnit ti fod yn un o'r gwahoddedigion teilwng, a bod yn gyfrannog o gyssur yr Ordinhâd, cynnhyrfa dy radau a gosod hwy ar waith. Megis,
I. Dy ffŷdd, Dymma 'r grâs pennaf iw arfer in y Sacrament; Canys ffydd yw llygad yr enaid, drwy yr hwn y mae'n canfod ac in jawn farnu corph a gwaed Christ tan yr elfennau o fara a gwin: Law yr Enaid yw hi hefyd, drwy yr honey mae 'n derbyn Jesus Grist: a genau yr Enaid, drwy yr hwn y mae 'n ymborthi ar Jesus Grist. Ac am hynny heb osod dy ffŷdd ar waith ar y Sacrament, ni eli dderbyn dim llesáad.