A85479:569
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
PEN. XXI. Am Baratoad erbyn Marwolaeth ac am Farw in dda.
PEN. XXI. Am Baratoad erbyn Marwolaeth ac am Farw yn dda.
OS dealli di fôd dy Glefyd i farwolaeth, ai fod in debyg o fod in Glefyd olaf i ti, yna dy ddoethineb fydd dy baratoi dy hun i farwolaeth in oreu ar y medrych.
OS dealli di fôd dy Glefyd i farwolaeth, ai fod yn debyg o fod yn Glefyd olaf i ti, yna dy ddoethineb fydd dy baratoi dy hun i farwolaeth yn oreu ar y medrych.
O ran dy gynnorthwyo in hyn in well, cymmer yr Hyfforddiadau ymma.
O ran dy gynnorthwyo yn hyn yn well, cymmer yr Hyfforddiadau ymma.
I Gofod dy Dŷ mewn trefn; fy meddwl yw, sefydlu o honot dy ystât oddiallan, drwy wneuthur dy Lythyr cymmun neu'th ewyllys; yr hyn ni phrysura ddim ar dy farwolaeth di mewn mod in y bŷd (fell y mae lawyer in eu ffoledd in tybied) and in hytrach a'th ddyru di mewn cymmhwysder gwell, i osod dy enaid mewn trefn o ran ymadawiad bendigedig. Ac megins ac y bendithiodd Duw di â golud, felly na phalla o roddi rhyw gyfran weddol o hono tu ac at ddiwallu aelodau tlodion Jesus Christ. Er bod yr eluseni a wneler in amser bywyd dŷn in oreu in ddiammeu, ac in fwyaf cymmeradwy gan Dduw, pan wnelom ni ein Dwylo ein hunain in Ecsecutorion, a'n Llygaid ein hunain in Olygwyr i ni; etto nid wyfi in beio ar yr Eluseni a ddangoser ar y diwedd, canys gwell yw'n ddiweddar nâ'i esceuluso tros bight.