A85479:560
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y DidHyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd
Hyfforddiadau Christianogol in dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hid y Did / a ofodwyd allan in Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac in Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.Hyfforddiadau Christianogol yn dangos pa fodd i rodio gyda Duw ar hyd y Dydd / a ofodwyd allan yn Saefonaec gan Tho. Gouge, gwenidog yr efengyl, ac yn Gamberaec gan Richard Jones o Ddinbech.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r awdwr, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Gweithred gyntaf ffydd yw Edrych am Grist; ac am hynny, pan wit ti in bresennol ar Swpper yr Arglwydd, na orphywys in yr elfennau oddiallan, in edrych arnynt hwy, ac in eu cymmeryd; eithr â llygad ffydd jawn farna gorph a gwaed Christ tan yr elfennau o fara a gwîn, y rhai in ddiau ydynt in ysprydol a Sacramentaidd in gosod allan gorph a gwaed Christ, fell y mae in eglur wrth ymadrodd Christ ei hun, canys ac efe in dal y bara in ei law, ef a ddywedodd; Matth. 26. 26. Hwn yw fy Nghorph, hynny yw, in Ddirgelaidd a Sacramentaidd, mewn ford o arwyddocâad; fell pe dywedasai, Mae 'r barahwn ⟨p. 126⟩in arwyddocau fy 'nghorph i. A chan ddal y cwppan oedd ar gwîn ynddi, a llefaru am y gwîn oedd o'i mewn, y mae'n dywedyd, Hwn yw sy ngwaed, hynny yw, in Ddirgelaidd a Sacramentaidd, mewn ford o arwyddocáad, fell pe dywedasai, Mae'r gwîn hwn in arwyddocau fy Ngwaed i.
1. Gweithred gyntaf ffydd yw Edrych am Grist; ac am hynny, pan wyt ti yn bresennol ar Swpper yr Arglwydd, na orphywys yn yr elfennau oddiallan, yn edrych arnynt hwy, ac yn eu cymmeryd; eithr â llygad ffydd iawn farna gorph a gwaed Crist tan yr elfennau o fara a gwîn, y rhai yn ddiau ydynt yn ysprydol a Sacramentaidd yn gosod allan gorph a gwaed Crist, fel y mae yn eglur wrth ymadrodd Crist ei hun, canys ac efe yn dal y bara yn ei law, ef a ddywedodd; Matth. 26. 26. Hwn yw fy Nghorph, hynny yw, yn Ddirgelaidd a Sacramentaidd, mewn ffordd o arwyddocâad; fel pe dywedasai, Mae 'r barahwn ⟨p. 126⟩yn arwyddocau fy 'nghorph i. A chan ddal y cwppan oedd ar gwîn ynddi, a llefaru am y gwîn oedd o'i mewn, y mae'n dywedyd, Hwn yw sy ngwaed, hynny yw, yn Ddirgelaidd a Sacramentaidd, mewn ffordd o arwyddocáad, fel pe dywedasai, Mae'r gwîn hwn yn arwyddocau fy Ngwaed i.
Ac megis nad wit ti i orphywys in yr elfennau oddiallan, na chwaith in y defodau ar gweithredoedd oddiallan; eithr wrth edrych arnynt hwy yr wit ti â llygad ffŷdd i welled ac i deal y pethau ysprydol a arwyddoceir drwyddynt: Pan ganffyddech di gan hynny y Gwenidog in torri'r bara, yna myfyria ar amryw ddioddefiadau Christ, ac â llygad ffŷdd, edrych ar Jesus Grist in crogi ar y Gross, yno in ymdrech â digofaint ei Dâd, ac in griddfanu tan bwys a baich ein pechodau ni; Cenfydd ei gorph bendigedig wedi ei dory ai ddryllio â ffonnodiau ag archollion, â fflangellau a hoelion.